Dros 1,000 o aelodau yn cystadlu gyda’r CFfI yn y Sioe Fawr

Blog byw o ddydd Mercher y sioe

Yn y sioe?

Ychwanegwch eich lluniau, fideos, sylwadau neu ganlyniadau i’r blog heddiw

– pwyswch Ymuno / Mewngofnodi i greu cyfrif

– pwyswch y botwm Ychwanegu diweddariad isod 

13:12

Wyn – Clwb Penmynydd ac Is-gadeirydd Môn – yn sôn am ei amser yn y sioe ac effaith y CFfI arno fel person.

12:17

Bydd y rhaffau ma ddim yn segur am sbel!

Rhyw hanner awr ar ei hôl hi yn dechrau’r TOW (mae da yn y cattle ring!)

12:16

Pwyso, byta, tynnu!

Merched CFfI Hermon sy’n ysu nawr i ddechrau cystadleuaeth y tynnu’r gelyn

12:10

Ffederasiwn yr Alban sy ar y llwyfan nesa!

12:03

Amserlen cystadlu’r CFfI heddiw

12:01

Criw ifanc Meirionnydd fydd yn ailgreu pennod enwog o Only Fools and Horses.

Galwch draw i gornel y CFfI ar faes y sioe i wylio nhw a’r holl glybiau wrthi.

11:53

Clwb Llanllwni fuodd yn cynrychioli Sir Gâr yn y gystadleuaeth newydd am leni – ailgreu pennod o ffilm neu raglen deledu.

Allwch chi ddyfalu pa raglen oedd da nhw, cyn gwylio’r fideo?

11:37

Canlyniadau’r CFfI – hyd yn hyn.

Maesyfed sydd ar y brig ar ôl deuddydd o gystadlu.

Yn ddiddorol, mae Ceredigion yn 5ed (a digon o gyfle eto i ddala lan).

Oes rhywun yn cofio ers sawl blwyddyn yn olynol mae Ceredigion wedi ennill y cwpan yn y Sioe? Mae sôn y gallai fod yn y ffigurau dwbwl!

11:24

Pam bod angen bin bags ar swyddogion y tynnu’r gelyn?

11:12

Croeso i’r sioe gan Hefin Evans, Cadeirydd CFfI Cymru.

Mae dydd Mercher yn ddiwrnod mawr yn y sioe!