Yr Wythnos Straeon Lleol wedi dechrau

Llwyth o straeon lleol gan bobol leol i lenwi’r gwefannau bro yr wythnos hon

Lowri Jones
gan Lowri Jones
lluniau-steddfod-gwefannau-bro-3

Byddwch chi wedi clywed am Ddiwrnod Cenedlaethol y Cŵn, ac Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl… wel mae heddiw’n ddechrau ar wythnos newydd sbon – Wythnos Straeon Lleol!

Mae pob stori fawr yn dechrau yn rhywle. Ac yn aml iawn, ar lawr gwlad – mewn sgwrs yn y dafarn neu wrth gât yr ysgol – y mae’r pethau sy’n bwysig i bobol yn cael eu trafod yn gyntaf.

Mae’r gwefannau bro yn lle i bawb sy’n byw yn lleol rannu eu straeon nhw. Un diwrnod fe fydd stori am lwyddiant athletwr lleol yn cael ei chyhoeddi ar y wefan fro… a’r diwrnod nesaf bydd stori am y siom o dorri gwasanaethau bws lleol yn ymddangos.

 

Sialens i bawb

Yr her yr wythnos yma i bob gwefan fro yw cyhoeddi 7 stori gan 7 person lleol gwahanol, a llenwi eu calendr ar-lein â digwyddiadau!

Felly dyma’ch cyfle chi – bawb sy’n byw yn y fro – i rannu’r hyn sy’n bwysig i chi.

Ewch ati heddiw i greu cyfrif (Ymuno/Mewngofnodi) a chyhoeddi stori fach. Does dim angen sgwennu llith – gallwch rannu lluniau a fideos a dewis pennawd bachog.

Mae’n ffordd wych o ddathlu a rhannu gyda thrigolion lleol, a chyrraedd cynulleidfa genedlaethol trwy golwg360.

 

Hwb i ddigwyddiadau a busnesau lleol

Mae cefnogi busnesau bach a digwyddiadau lleol yn rhan bwysig o bob gwefan fro.

Os ydych chi’n gwybod am ddigwyddiad sy’ mlaen dros yr ŵyl, cofiwch ei hyrwyddo yn y calendr. Bydd hi’n wych gallu gweld popeth sy’ mlaen yn lleol mewn un man.

Ac os oes gennych fusnes ac rydych eisiau denu cwsmeriaid sy’n dymuno siopa’n lleol, ymunwch â Marchnad360 fel aelod llawn heddiw. Mae cynnig arbennig o 3 hysbys am bris un ymlaen yr wythnos hon – bargen am £50!

 

Ble mae’r gwefannau bro?

Mae gan 9 ardal eu gwefan straeon lleol ar hyn o bryd yn rhan o rwydwaith 360 gan Golwg, ac mae mwy ar y ffordd yn ne Ceredigion yn fuan: