Eisiau denu sylw cwsmeriaid sy’n dymuno siopa’n lleol?

Cyfle arbennig i fusnesau bach gael 3 hysbys am bris un y ’Dolig yma

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae cyfle i fusnesau bach gael tri hysbys am bris un y ’Dolig yma, a chyrraedd cwsmeriaid newydd sy’n awyddus i gefnogi busnesau lleol.

Hafan busnesau bach Cymru – Marchnad360 – sy’n cynnig y pecyn arbennig yma, a’r dyddiad cau ar gyfer manteisio arno yw 25 Tachwedd 2022.

Trwy becyn ‘siopa lleol’ Marchnad360 bydd eich cwmni yn cyrraedd:

  • POBOL LEOL: trwy gael proffil llawn ar eich gwefan fro  
  • DARLLENWYR GOLWG: trwy gael listing yn atodiad print y gwefannau bro, fydd yn rhan o rifyn ’Dolig cylchgrawn Golwg
  • SIOPWYR CYMRU GYFAN: trwy gael sylw arbennig i’ch cynnyrch ar golwg360 a Marchnad360 ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach

Fel arfer, mae cael proffil llawn ar Marchnad360 yn costio £100 y flwyddyn i fusnes, ond mae’n cael ei gynnig am £50 eleni, gan ei fod yn ei flwyddyn gyntaf.

Dilynwch y camau yma i ymuno â Marchnad360 fel aelod llawn:

  1. Ewch i wefan y Farchnad a dewis Ychwanegu busnes.
  2. Os oes gennych gyfrif ar un o wefannau 360 yn barod, mewngofnodwch – neu dewiswch Ymuno i greu cyfrif newydd. Eich cyfrif personol yw hwn, felly defnyddiwch eich enw eich hun.
  3. Ymunwch fel aelod llawn (£50) i fanteisio ar y pecyn hwn.
  4. Os yw proffil eich busnes yn ymddangos ar y farchnad yn barod, bydd angen i chi ei hawlio. Porwch drwy fusnesau’r Farchnad a dewis hawlio’r busnes.
  5. Fel arall, ewch ati i greu proffil busnes. Cofiwch ychwanegu llun da o’ch cynnyrch neu fusnes (bydd hynny’n well na logo), a rhoi pin ar y map i ddangos eich union leoliad.
  6. Cyhoeddwch eich proffil a chadw’r newidiadau.

 

Cysylltwch â Lowri ar lowrijones@golwg.cymru os hoffech drafod ymhellach.