Pa gorau a phartïon sy’n cwrdd yng Ngheredigion? 

Blog byw i ddarganfod realiti’r sefyllfa wedi’r pandemig, 100 diwrnod cyn dechrau Eisteddfod Genedlaethol 2022

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydych chi’n aelod o gôr neu barti llefaru, canu neu ddawns yng Ngheredigion?

Rhowch w’bod trwy gyfrannu at y blog byw yma heddiw.

Gyda heddiw’n dynodi 100 diwrnod i fynd tan i Geredigion groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol, rydym am fapio’r criwiau creadigol sy’n cwrdd erbyn hyn.

Nid yn unig mae’n gyfle i weld realiti’r sefyllfa wrth i ni ddod mas o’r pandemig, ond gallai’r wybodaeth droi’n fap llawn corau a phartïon fydd yn denu aelodau newydd i ymuno â chi, er mwyn cymryd rhan yn y brifwyl!

Mae ychwanegu sylw isod yn hawdd:

– Mewngofnodwch/Ymunwch â’r wefan

– Pwyswch y botwm ‘ychwanegu diweddariad’ isod.

11:10

1

Parti Camddwr cyn y Cyfnod Clo

Parti Camddwr

Mae’r parti o’r diwedd wedi ail-ddechrau cyfarfod ac ymarfer “yn y cnawd” ac rydyn ni wrth ein boddau i fod yn ôl yng nghwmni ein gilydd. Rydyn ni wedi gweld eisiau’r canu ac yn bennaf oll y gwmnïaeth a’r chwerthin – mae’n llonni’r enaid!

Cawsom gyfarfod cychwynnol ar nos Fercher 4 Mai yn festri Capel Rhydlwyd, Lledrod. Roedd criw niferus ohonom ni wedi dod ynghyd a hyfryd oedd cael canu unwaith eto ta waeth faint o we pry cop oedd o amgylch y lle!

Roedd y bois yn falch dros ben i groesawi Huw Jones, Hendre Phillip, Llwynygroes at y parti. Bydd yn hyfryd cael dod i adnabod Huw yn well yn yr wythnosau nesaf. Gobeithio bydd Huw yn mwynhau yn ein cwmni.

Hyfryd oedd cael Dai Jones, Esgairmaen Fach yn ôl yn ein mysg wedi triniaeth ddiweddar. Roeddwn i gyd yn hynod falch o gael ei gwmni a’i weld o amgylch y lle eto. Ta waeth am y ben-glin, roedd y llais i weld mor iach ag erioed!

Does dim byd yn y dyddiadur ar hyn o bryd tan Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, lle byddwn yn cymryd rhan yn Ymryson y Partïon Gwerin yn y Tŷ Gwerin ar y maes ar ddydd Sul 31 Gorffennaf am 1pm. Bwriadwn hefyd gystadlu yng nghystadleuaeth y Partïon Gwerin yn nes ymlaen yn yr wythnos. Byddwn yn siŵr o drefnu ambell ddigwyddiad yn lleol cyn hyn felly gwyliwch y gofod!

Rydyn ni’n dal i obeithio recriwtio un baswr mor fuan â phosib felly od oes diddordeb gan rywun cysylltwch ag Efan ar 07791163436!

09:26

B5F5811B-EDF4-4D0D-9EDC

Paratoi recordiad ar gyfer Eisteddfod Amgen 2021

91571CB8-F75D-4D8D-BB97

Ymarfer yn yr awyr agored!

Parti Llefaru Drudwns Aber

Parti a sefydlwyd yn Aberystwyth er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Ceredigion 2020 yw Drudwns Aber.

Cyn i Cofid darfu ar ein cynlluniau roedden ni wedi dechrau cefnogi eisteddfodau lleol megis Eisteddfod Swyddffynnon.

Fe benderfynon ni gefnogi Eisteddfod Amgen Genedlaethol 2021 ac roedden ni’n falch iawn o dderbyn yr ail wobr. Fe sylweddolon ni’n fuan iawn nad oedd ymarfer ar Zoom yn llwyddiannus iawn wrth geisio cydsymud! Felly, fe gawson ni dipyn o hwyl yn ymarfer yn yr awyr agored ac yn ffilmio’n perfformiad terfynol gan sicrhau cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol!

Rydyn ni’n griw amrywiol – rhai wedi arfer â pherfformio o flaen cynulleidfa ac eraill am roi cynnig arni. Rydyn ni’n mwynhau cydweithio ar ddehongli’r farddoniaeth rydyn ni am ei chyflwyno ac wedi cael sawl sgwrs ddiddorol wrth wneud hyn! Mae rhannu syniadau yn bwysig iawn i ni fel grŵp. Gwaith tîm go iawn!

Mae cymdeithasu hefyd yn elfen bwysig o’r grŵp ac rydyn ni’n mwynhau ambell i noson allan yng nghwmni’n gilydd.

Byddwn yn ailgydio yn y gwaith o baratoi at Eisteddfod Ceredigion 2022 ar nos Sul 24 Ebrill o 6-7 o’r gloch yn Festri Capel y Morfa, Aberystwyth.

Croeso mawr i chi ymuno!

Dilynwch ni ar Instagram – @drudwnsaber

08:43

IMG_0613

Cardi-Gân yn canu yn Eglwys Gymraeg Llundain adeg perfformiad Teilwng yw’r Oen.

Sefydlwyd Côr Cardi-Gân ar ddiwedd mis Medi 1999 yn dilyn Eisteddfod yr Urdd yn Llambed. Cynhaliwyd Cyngerdd Dathlu 20 oed yn Theatr Felinfach yng nghwmni Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies nôl ym mis Medi 2019. Methwyd gorffen ein dathlu oherwydd y cyfnod clo. Gobeithio gallwn orffen rheini yn ddiweddarach eleni.

Côr SATB i ni ac yn cael tipyn o hwyl ymysg ein gilydd bob nos Fercher. Theatr Felinfach oedd ein cartref tan y cyfnod clo ac erbyn hyn rydym yn cynnal ein ymarferion yn Eglwys Ystrad Aeron.

Braf yw croesawu aelodau newydd atom yn ddiweddar ond mi fyddai’n braf gweld tipyn mwy o fois yn ymuno!!

Edrychwn ymlaen at berfformio ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar ddydd Mawrth, Awst 2il.

Felly, os hoffech chi ymuno â chôr SATB – bydd croeso cynnes yn eich aros ar nos Fercher yn Eglwys Ystrad Aeron, Felinfach am 7.45y.h.

12:12

inbound4842620809872498057

Ymarfer yn yr awyr iach

inbound7613719217137188215

Ymarfer cyntaf 2022

inbound6911354021388778949

Na, nid y wanted list ond ymdrechion Movember.

Meibion y Mynydd

Wedi seibiant o ddwy flynedd mae bois Meibion y Mynydd yn falch iawn o fod nôl gyda’i gilydd yn ymarfer a braf yw cael cyngherddau a digwyddiadau I baratoi ar eu cyfer.

Doedd zoom ddim yn rhywbeth oedd yn apelio at y côr o ran trïo cynnal ymarferion, er cafwyd sawl noson gwis drosto fel bod pawb yn medru gweld ei gilydd a chymdeithasu yn ystod y cyfnod clo.

Gan fod codi arian at elusennau yn rhywbeth pwysig iawn i ni fel côr, penderfynwyd ymuno ag ymgyrch Movember a chodwyd arian at prostate cancer. Doedd Covid a chyfnod clo ddim yn mynd i rwystro’r bois rhag tyfu mwstas a chodi arian at achos sydd yn effeithio gymaint o ddynion ar hyd a lled y wlad.

Er i ni drio ailgydio yn yr ymarferion nôl yn nhymor yr Hydref, fe ddaeth Covid ar ein traws a gorfod i ni wneud y penderfyniad o adael ymarferion tan 2022.

Ond, ni nôl ac yn wedi croesawu aelodau newydd i’n plith sydd yn arwydd o’r angen i gymdeithasu a dod nôl i ryw fath o normalrwydd.

Bach o sioc yw trïo cofio alawon a geiriau wedi cymaint o seibiant, ond mae’r ffaith bod gennym ddigwyddiadau i anelu atynt yn hwb i bawb.

Edrychwn ymlaen at gyngerdd yn neuadd y Celfyddydau ym mis Mehefin ac mae’r paratoadau wedi cychwyn ar gyfer ein cyngerdd Dathlu Deg sydd ymlaen ym mis Hydref.

Cofiwch, os chi chwant ymuno a chriw o fois hwylus a chymdeithasol iawn yna rydym yn ymarfer yn neuadd Ponterwyd a Chapel Seion, am yn ail wythnos ar nos Sul.

09:58

inbound9087024370793845919

Canu tu fas Cartrefi Gofal yr ardal yn ystod y Pandemig.

inbound7749687262670600594

Ymarfer côr yn ystod y Pandemig

Côr Merched Soar.

Côr o ferched sy’n cwrdd bob yn ail nos Fawrth yn Festri Bwlchgwynt, Tregaron.

Ry’ ni’n canu pethau poblogaidd, alawon gwerin, pethau traddodiadol ac wedi rhoi shot ar gerdd dant hefyd!!

Rydyn ni wedi diddanu mewn digwyddiadau amrywiol yn y gymuned, cystadlu mewn eisteddfodau (lleol a chenedlaethol) ac wedi cynnal cyngerdd hefyd.

Dros y pandemig, parhaodd y côr i gwrdd tu fas (ym maes parcio Tregaron) a buon ni’n canu tu fas cartrefi gofal yr ardal.

Rydyn ni’n paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ar hyn o bryd ac yn gyffrous iawn!

09:39

Mae Bytholwyrdd nôl!

Ar ôl dros ddwy flynedd o ddistawrwydd daeth aelodau Côr Bytholwyrdd (Côr i gantorion dros 60 oed) yn ôl at ei gilydd wythnos d’wetha yng Nghapel Brondeifi, Llanbed’ gyda’r bwriad o gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae croeso i aelodau newydd o hyd – yr unig gymhwyster yw bod yn 60 oed neu trosodd, a mwynhau canu.
Cynhelir yr ymarfer nesa bnawn Sul, Ebrill 24 am 2 pm ym Mrondeifi ac yna nos Fawrth Mai 3/10/17/24 7-8.30 p.m. Dewch I ganu!