Pa gorau a phartïon sy’n cwrdd yng Ngheredigion? 

Blog byw i ddarganfod realiti’r sefyllfa wedi’r pandemig, 100 diwrnod cyn dechrau Eisteddfod Genedlaethol 2022

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydych chi’n aelod o gôr neu barti llefaru, canu neu ddawns yng Ngheredigion?

Rhowch w’bod trwy gyfrannu at y blog byw yma heddiw.

Gyda heddiw’n dynodi 100 diwrnod i fynd tan i Geredigion groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol, rydym am fapio’r criwiau creadigol sy’n cwrdd erbyn hyn.

Nid yn unig mae’n gyfle i weld realiti’r sefyllfa wrth i ni ddod mas o’r pandemig, ond gallai’r wybodaeth droi’n fap llawn corau a phartïon fydd yn denu aelodau newydd i ymuno â chi, er mwyn cymryd rhan yn y brifwyl!

Mae ychwanegu sylw isod yn hawdd:

– Mewngofnodwch/Ymunwch â’r wefan

– Pwyswch y botwm ‘ychwanegu diweddariad’ isod.

09:58

inbound9087024370793845919

Canu tu fas Cartrefi Gofal yr ardal yn ystod y Pandemig.

inbound7749687262670600594

Ymarfer côr yn ystod y Pandemig

Côr Merched Soar.

Côr o ferched sy’n cwrdd bob yn ail nos Fawrth yn Festri Bwlchgwynt, Tregaron.

Ry’ ni’n canu pethau poblogaidd, alawon gwerin, pethau traddodiadol ac wedi rhoi shot ar gerdd dant hefyd!!

Rydyn ni wedi diddanu mewn digwyddiadau amrywiol yn y gymuned, cystadlu mewn eisteddfodau (lleol a chenedlaethol) ac wedi cynnal cyngerdd hefyd.

Dros y pandemig, parhaodd y côr i gwrdd tu fas (ym maes parcio Tregaron) a buon ni’n canu tu fas cartrefi gofal yr ardal.

Rydyn ni’n paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ar hyn o bryd ac yn gyffrous iawn!

09:39

Mae Bytholwyrdd nôl!

Ar ôl dros ddwy flynedd o ddistawrwydd daeth aelodau Côr Bytholwyrdd (Côr i gantorion dros 60 oed) yn ôl at ei gilydd wythnos d’wetha yng Nghapel Brondeifi, Llanbed’ gyda’r bwriad o gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae croeso i aelodau newydd o hyd – yr unig gymhwyster yw bod yn 60 oed neu trosodd, a mwynhau canu.
Cynhelir yr ymarfer nesa bnawn Sul, Ebrill 24 am 2 pm ym Mrondeifi ac yna nos Fawrth Mai 3/10/17/24 7-8.30 p.m. Dewch I ganu!