Mae’r byd yn newid, a’r ffordd ry’n ni’n rhedeg mudiadau a chymdeithasau’n newid hefyd.
Felly, dylsem ystyried a oes angen newid y ffordd ry’n ni’n penodi arweinwyr am y flwyddyn sydd i ddod. Efallai nad penodi’r swyddogion traddodiadol (e.e. Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd) yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’i gwneud hi bellach…
Dyma rai esiamplau o ffyrdd eraill o greu tîm gweithgar sy’n cydweithio:
1. Timau fesul diddordeb
Beth? Creu rhestr fach o’r math o sgiliau sydd eu hangen arnoch chi, ac annog pawb yn y grŵp i ddewis un tîm i berthyn iddi. Penodi capten i bob tîm am flwyddyn, sydd â’r rôl o arwain a delegetio.
Mantais: Ffordd o gynnwys pawb trwy’r pethau maen nhw’n gyffyrddus yn eu gwneud.
Esiampl: Côr yn sefydlu tîm cerddorol, tîm cyfathrebu, tîm aelodaeth, a thîm i drefnu digwyddiadau cymdeithasol.
2. Pawb i wneud un swydd
Beth? Rhannu swydd, e.e. Trefnydd Rhaglen, rhwng pob aelod, fel bod pawb yn cymryd eu tro. Gallai pâr o bobol â sgiliau gwahanol gydweithio.
Mantais: Llai o faich ar un person, a ffordd dda o gael amrywiaeth yn rhaglen y mudiad.
Esiampl: Cangen Merched y Wawr i benodi 12 person / pâr i fod yn gyfrifol am drefnu mis yr un o weithgaredd i’r calendr.
3. Ailwampio swyddi
Beth? Ystyried a fyddai’n well cael ‘swyddog cyfryngau cymdeithasol’ yn hytrach na ‘swyddog y wasg’? A fyddai pennu un person gwahanol i gymryd cofnodion ym mhob cyfarfod yn well na phenodi un person am y flwyddyn?
Mantais: Rhoi’r egni yn y llefydd y mae eu hangen yn yr oes yma.
4. Rhoi enwau wrth dasgau
Beth? Creu cynllun gweithredu a gofyn pwy sydd am wneud beth, ar ddiwedd y sgwrs syniadau.
Mantais: Rhannu’r baich, cofnod ar ddu a gwyn yn help i roi perchnogaeth.
Gair o gyngor: Holi ‘pwy sydd am wneud beth’ ar ddiwedd y sgwrs, nid wrth i’r syniadau gael eu cynnig, rhag ofn y bydd person â llawer o syniadau’n gyndyn i siarad mwy!
Yw trosglwyddo’n bwysig?
Does neb eisiau cymryd cyfrifoldeb sy’n mynd i fod gydag e am byth.
Mae’n bwysig meddwl am ffyrdd o drosglwyddo wrth sefydlu ‘swyddogion’ ac wrth fynd mlaen.
Dyma ambell air o gyngor:
- Newidiwch eich ‘swyddogion’ bob dwy flynedd, fan bellaf. Bydd yr hoe yn rhoi egni i rywun ymgymryd â’r gwaith eto.
- Mae penodi ‘is’ swyddog yn gallu bod yn ffordd dda o raeadru.
- Peidiwch bod ofn rhoi cyfrifoldeb i rywun newydd. Bydd y broses o fwrw ati a chymryd cyfrifoldeb yn werthfawr i bob unigolyn, hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod angen buddsoddi yn eu meithrin yn y lle cyntaf.
- Ceisiwch ddenu pobol mewn i’ch gweithgaredd gyda rhywbeth y byddan nhw’n joio, yn lle eu holi i fod yn ‘swyddog’ ar unwaith. Gallwch adeiladu ar hynny…
Dod Ynghyd
Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.