Ar ôl ‘nabod stori gwerth ei hadrodd, y cam nesa’ yw mynd ymlaen i’w ‘sgwennu.
Ond sut mae mynd ati i wneud hynny? Lle mae rhywun yn cychwyn ’sgwennu stori newyddion?
Mae’n debyg ei bod yn cymryd tair eiliad yn unig i rywun benderfynu a yw am ddarllen stori newyddion ai peidio.
A gyda’r rhan fwyaf ohonom yn cael ein newyddion ar sgrîn bach o ffôn, mae’n bwysig bod hanfod y stori i’w gael yn y pennawd, llun a’r brawddegau cyntaf.
Dyma ddeg tip gan Dylan Iorwerth ar sut i lunio’r stori orau yn y byd!
- Cofio mai sgwennu ar gyfer y darllenydd ydyn ni.
- Brawddegau cryno, a pharagraffau byr er mwyn cynnal diddordeb y darllenydd.
- Pennawd uniongyrchol – efo berf.
- Defnyddio is-benawdau i helpu’r darllenydd (wrth iddo sgimio-darllen).
- Cyfleu hanfod y stori yn y tri neu bedwar paragraff cyntaf.
- Pa ddarn o’r stori fyddwch chi’n rhedeg adre i’w dweud? Dyna ydy eich stori.
- Ydych chi wedi cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol?
- Iaith sy’n gweddu i’ch darllenwyr a’r pwnc – a pheidiwch ag ofni defnyddio tafodiaith eich bro.
- Dim jargon.
- Bod yn gryno!
Sut fyddwch chi’n gwybod a yw eich brawddeg mor gryno ag y gall fod?
Ystyriwch yr arwydd yma ar ben y lôn: “WYAU FFRESH AR WERTH YMA”.
Oes modd cwtogi’r frawddeg yma? Sawl gair sydd gennych, ar ôl cael gwared â phob gair diangen?
Rhowch gynnig arni!
Beth, felly, yw strwythur stori newyddion?
Does dim un ffordd o sgwennu stori. Yn wir, bydd stori nodwedd yn edrych yn wahanol i stori newyddion, er enghraifft. Ond dyma un ffordd o’i gwneud hi:
- Paragraff 1: Y peth mwyaf trawiadol ynghylch y stori. Yr hyn fyddwch chi’n rhedeg adre i’w ddweud wrth bawb.
- Paragraff 2 a 3: Adeiladu ar hyn – mwy o wybodaeth, neu ymateb trawiadol.
- Paragraff 4: Oes datblygiadau pellach sy’n debygol o ddigwydd?
- Paragraff 5 a 6: Cefndir y stori.
- Dyfyniadau: O’r ddwy ochr, er mwyn sicrhau cytbwysedd.
- Cloi: Mwy am y datblygiadau neu’r goblygiadau.