Sut mae parhau i gynnal pethau’n Gymraeg?

6 dull ar gyfer cynnal statws y Gymraeg wrth groesawu mewnfudwyr i’n gweithgarwch

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma 6 dull posib, rhad ac am ddim, o gynnal statws y Gymraeg wrth groesawu mewnfudwyr ar eu taith i gymhathu yn ein cymunedau.

Wrth drefnu digwyddiad neu bwyllgor yn ein cymdogaeth, beth am i ni:

  1. Codi’r cwestiwn: Sut mae parhau i gynnal pethau’n Gymraeg a chynorthwyo mewnfudwyr i gymhathu?
  2. Cynllunio: Dewis y dull mwyaf addas, a gwneud y trefniadau
  3. Canlyniad: Cryfhau

Dull 1: Popeth (bron) yn Gymraeg

Beth am gynnal digwyddiad yn uniaith Gymraeg, gan roi gair byr o groeso yn Saesneg?

Esiampl: Cyngerdd talentau lleol

Dull 2: Siarad trwy’r trwch

Symud yn gyson o’r naill iaith i’r llall heb ailadrodd

Esiampl: Gwasanaeth goffa

Dull 3: Crynhoi

Cynnal y digwyddiad yn Gymraeg, gan baratoi crynodeb Saesneg ar bapur o flaen llaw

Esiampl: Perfformiad drama

Dull 4: Cyfeillio

Siaradwr Cymraeg i eistedd gyda’r mewnfudwr a rhoi crynodeb syml a chyson

Esiampl: Cyfarfod Cylch Meithrin

Dull 5: Sylwebu ar-y-pryd

Defnyddio meic a chlustffonau i gyfleu beth sy’n digwydd ac esbonio’r cyd-destun heb gyfieithu air am air

Esiampl: Eisteddfod leol

Dull 6: Cyfieithu bro

Defnyddio meic a chlustffonau i gyfieithu ar y pryd yn anffurfiol

Esiampl: Sgwrs banel

 

Dod Ynghyd

Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.

Sut mae parhau i gynnal pethau’n Gymraeg?

Lowri Jones

6 dull ar gyfer cynnal statws y Gymraeg wrth groesawu mewnfudwyr i’n gweithgarwch