Dyma 6 dull posib, rhad ac am ddim, o gynnal statws y Gymraeg wrth groesawu mewnfudwyr ar eu taith i gymhathu yn ein cymunedau.
Wrth drefnu digwyddiad neu bwyllgor yn ein cymdogaeth, beth am i ni:
- Codi’r cwestiwn: Sut mae parhau i gynnal pethau’n Gymraeg a chynorthwyo mewnfudwyr i gymhathu?
- Cynllunio: Dewis y dull mwyaf addas, a gwneud y trefniadau
- Canlyniad: Cryfhau
Dull 1: Popeth (bron) yn Gymraeg
Beth am gynnal digwyddiad yn uniaith Gymraeg, gan roi gair byr o groeso yn Saesneg?
Esiampl: Cyngerdd talentau lleol
Dull 2: Siarad trwy’r trwch
Symud yn gyson o’r naill iaith i’r llall heb ailadrodd
Esiampl: Gwasanaeth goffa
Dull 3: Crynhoi
Cynnal y digwyddiad yn Gymraeg, gan baratoi crynodeb Saesneg ar bapur o flaen llaw
Esiampl: Perfformiad drama
Dull 4: Cyfeillio
Siaradwr Cymraeg i eistedd gyda’r mewnfudwr a rhoi crynodeb syml a chyson
Esiampl: Cyfarfod Cylch Meithrin
Dull 5: Sylwebu ar-y-pryd
Defnyddio meic a chlustffonau i gyfleu beth sy’n digwydd ac esbonio’r cyd-destun heb gyfieithu air am air
Esiampl: Eisteddfod leol
Dull 6: Cyfieithu bro
Defnyddio meic a chlustffonau i gyfieithu ar y pryd yn anffurfiol
Esiampl: Sgwrs banel
Dod Ynghyd
Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.