Lansio gŵyl newydd sy’n helpu cymunedau i gamu mlaen o Covid

Cyfle pob cymuned yng Nghymru i gynnal eu Gŵyl Bro eu hunain ar 3-5 Medi

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae Bro360 yn gwahodd cymunedau i gynnal gweithgaredd i ddathlu’r filltir sgwâr a brolio eu bro.

Cynhelir Gŵyl Bro ar benwythnos 3-5 Medi, a heddiw mae Bro360 yn cyhoeddi bod pecyn yr ŵyl ar gael i’w archebu.

ARCHEBU PECYN AM DDIM.

Mae’r pecyn cynhwysfawr yn gyfuniad o adnoddau print a digidol, ac mae’n cynnwys popeth sydd ei angen ar gymunedau i ddod ynghyd, dathlu a darlledu o’u digwyddiad lleol-iawn eu hunain.

Yr Ŵyl

Fesul pentrefi, plwyfi, trefi neu strydoedd, gall pawb gynnal rhywbeth bach (neu fawr!) a syml (neu uchelgeisiol!) i ddathlu hanes, talentau a phobol eu bro. I fwynhau yng nghwmni ein gilydd unwaith eto.

Mae bywyd yn fwy diflas ers Covid. Y cyfleoedd i gymdeithasu yw un o’r pethau mwya’ mae pobol yn gweld eu heisiau. Ond mae Covid wedi newid rhai pethau er gwell – ac yn ystod y cyfnodau clo yn enwedig mae pobol wedi gweld mai eu milltir sgwâr oedd eu byd. Mae pwysigrwydd ein cymuned a’r lle lleol yn fwy amlwg nag erioed.

Mae hwn yn gyfle ac yn adeg berffaith i roi hwb i weithgarwch lleol a dod â phobol leol ynghyd am y tro cyntaf ers oes, mewn ffordd ddiogel.

Nod yr ŵyl newydd hon yw bod yn fwy nag un gŵyl, ond yn llu o ddigwyddiadau lleol-iawn ar hyd a lled y wlad, sy’n cael eu cynnal dros yr un penwythnos (3-5 Medi). Cyfle i bawb ddathlu eu milltir sgwâr.

Pecyn Gŵyl Bro

Mae croeso i unrhyw un yn unrhyw gymuned yng Nghymru archebu pecyn Gŵyl Bro, am ddim.

Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i feddwl am syniadau fel criw, i drefnu digwyddiad llwyddiannus, i rannu bwrlwm bro:

  • esiamplau o weithgareddau i’w cynnal
  • cyngor codi arian (neu beidio!)
  • sticeri a bynting
  • cyngor ar helpu mewnfudwyr i gymhathu
  • cyngor ar ddilyn rheolau Covid
  • templed o boster ar Canva
  • 20 syniad darlledu
  • ‘sut i greu’ ar wefannau Bro360

… a llawer mwy.

Dyma gyfle pob cymuned chi fod yn rhan o rywbeth mwy.  Ewch chi amdani i gynnal eich Gŵyl Bro?

Mae pecyn Gŵyl Bro wedi’i gynhyrchu gan gynllun Bro360 – cwmni Golwg – i gynorthwyo ein cymunedau i ddod ynghyd, dathlu a darlledu.

 

Archebu pecyn

Pecyn Gŵyl Bro: popeth sydd ei angen arnoch

Lowri Jones

Pentwr o adnoddau i’ch helpu i ddod ynghyd, dathlu a darlledu o’ch gŵyl bro chi