Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.
Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.
Cofiwch fod hi’n bosib i chi ychwanegu i’r blog hefyd, drwy ddilyn y camau!
???
3ydd: ‘Taith Rhodri’ gan Manon Wyn James ar Caron360
2il: ‘Osian yn ennill cwpan ei dad-cu mewn cystadleuaeth golff’ gan Hannah James ar Clonc360
1af: ‘Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru’ gan Rhys Pritchard ar Ogwen360
Llongyfarchiadau!
Drwy fis Awst, cynhaliwyd cystadleuaeth cynnwys chwaraeon lleol – pwy bynnag oedd di creu’r darn mwyaf poblogaidd drwy’r mis bu’n fuddugol. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd am 5, fan hyn…
Tîm @WDLewis_ wedi ennill Helfa Drysor @Plaid_Llambed heddiw. Da iawn Gŵyl @Bro__360. pic.twitter.com/hODO6JwYyQ
— Craffwr (@Craffwr) September 4, 2021
Fel soniodd Lowri isod, mae newyddlenni newydd-sbon y gwefannau bro yn cael eu dosbarthu dros y penwythnos ’ma.
Dyma sneak-peek i chi rhai Arfon – i wefannau BangorFelin360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen360.
Ac i ddarllen mwy cerwch i’ch gwefan fro i weld a darllen y diweddaraf!
Helo bawb – dw i nôl o Lanilar, ac yn eithaf ffyddiog fod tîm Triongl di berfformio’n dda yn y daith gerdded / cwis. Mae ’na sawl digwyddiad dal mlaen, a gallwch ddilyn blogiau byw Gŵyl Felin fan hyn, ac un Tregaroc bach bach fan yma.
O ran digwyddiadau sy’ dal i ddod, mae ’na helfa drysor yn Gorsgoch am 5.30 heno, a gig yn cloi’r noson yng Nghlwb Rygbi Bethesda.
Pob hwyl i Dafydd a’r criw yn Bethesda heno!
Ma’r gig mawr heddiw felly dyma di’r deal:
Lineup:
• YAZZY
• Dafydd Hedd
• Orinj
• CAICapacity – 80 yn y stafell ar yr un pryd
Ticedi – £5 a talu ar y drws
Dechrau – 7pm ond angen gorffen 11pm
Methu disgwl gweld pawb heno!— Dafydd Hedd (@DafyddHedd) September 4, 2021
Gall pawb gyfrannu at y blog yma – pwyswch ‘ymuno’ (ar dop y sgrîn) i greu cyfrif, yna pwyso’r botwm ‘ychwanegu diweddariad’ yn y blog. Neu defnyddiwch #GŵylBro ar gyfryngau cymdeithasol!
Criw Curo Cancr yn galw heibio i godi arian gan dyrfa Trwgaroc Bach Bach
Rhai o griw Tregaroc yn darlledu ar flog byw Caron360