Yn fyw o Gŵyl Bro: dydd Sadwrn

Y diweddaraf o’r holl ddigwyddiadau lleol sy’n cael eu cynnal yn rhan o’r ŵyl dros y penwythnos

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.

Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.

16:18

16:10

Fel soniodd Lowri isod, mae newyddlenni newydd-sbon y gwefannau bro yn cael eu dosbarthu dros y penwythnos ’ma.

Dyma sneak-peek i chi rhai Arfon – i wefannau BangorFelin360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen360.

Ac i ddarllen mwy cerwch i’ch gwefan fro i weld a darllen y diweddaraf!

16:04

Helo bawb – dw i nôl o Lanilar, ac yn eithaf ffyddiog fod tîm Triongl di berfformio’n dda yn y daith gerdded / cwis. Mae ’na sawl digwyddiad dal mlaen, a gallwch ddilyn blogiau byw Gŵyl Felin fan hyn, ac un Tregaroc bach bach fan yma.

O ran digwyddiadau sy’ dal i ddod, mae ’na helfa drysor yn Gorsgoch am 5.30 heno, a gig yn cloi’r noson yng Nghlwb Rygbi Bethesda.

16:01

Pob hwyl i Dafydd a’r criw yn Bethesda heno!

15:50

Gall pawb gyfrannu at y blog yma – pwyswch ‘ymuno’ (ar dop y sgrîn) i greu cyfrif, yna pwyso’r botwm ‘ychwanegu diweddariad’ yn y blog. Neu defnyddiwch #GŵylBro ar gyfryngau cymdeithasol!

15:48

Criw Curo Cancr yn galw heibio i godi arian gan dyrfa Trwgaroc Bach Bach

15:46

Rhai o griw Tregaroc yn darlledu ar flog byw Caron360

15:42

Yn boeth o’r wasg – mae newyddlenni y gwefannau bro yn cael eu dosbarthu dros y penwythnos ma.

Dyma bwt o straeon diweddaraf gwefannau Ceredigion – i wefannau Caron360, Clonc360 a BroAber360.

Ac i ddarllen mwy – wel ewch i’ch gwefan fro i weld y straeon diweddaraf!

15:28

15:26

Fyddwch chi’n bwrw draw i Fangor pnawn ma? Am 3.30 bydd perfformiad gan y côr newydd Encôr ar Pier Garth Bangor. Maen nhw’n codi arian ar gyfer Gafael Llaw ac Ambiwlans Awyr Cymru.