Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.
Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.
Pawb yn joio helfa drysor Gorsgoch heno. Y plant wedi gwneud defnydd da iawn o’r sticers!
Dwi am eich gadael chi heddiw gyda clip o Dafydd Hedd yn canu.
Diolch am ddilyn ein blog byw. Byddwn yn ôl fory i rannu mwy o gynnwys digwyddiadau Gŵyl Bro gyda chi!
Tan hynny, hwyl fawr…
Dyma flas i chi o Yazzy’n canu’n y clwb rygbi!
Trefnydd y noson, Dafydd Hedd, fydd yn perfformio nesaf!
Mae gig Gŵyl Ogwen ar fin dechrau! Llwyth o dalent lleol yn barod i ganu yng nghlwb rygbi Bethesda, a dyma’r ‘set-up’!
Dyna fi am y diwrnod – bydd Gut yma wan i’ch tywys trwy’r gig.
Un digwyddiad sydd i fynd heno ma – gig yng Nghlwb Rygbi Bethesda, sydd yn cynnwys talent lleol megis Yazzy, Adam Boggs, Dafydd Hedd, Orinj a CAI. Bydd Guto Jones, ysgogydd Arfon Bro360 yma i’ch tywys chi drwy bethau o 7 ymlaen.
Ydy holl ddigwyddiadau heddiw wedi eich ysbrydoli i drefnu rhywbeth efallai? Dyma holi Cadeirydd Sioe Dyffryn Ogwen am ei brofiadau’n trefnu’r Sioe.
Sut mae cynnal Sioe Dyffryn Ogwen? – holi’r Cadeirydd
Digwyddiad arall o’r gogs oedd prynhawn cymdeithasol yng Ngerlan, hefo cerddoriaeth gan Dafydd Hedd, cacennau blasus a llwyth o siarad a chwerthin.
Diolch i Daniela Schlick am drefnu, ac am y darn!
Gŵyl Bro – Llyfrgell Planhigion Gerlan
Un o ddigwyddiadau’r gogledd heddiw oedd gig gyntaf Encôr, côr a sefydlwyd yn Rhagfyr 2020.
Diolch i Ruth am greu darn am y perfformiad!
(Drafft)
Da ni rhyw 10 munud i ffwrdd o gychwyn helfa drysor ar droed Gorsgoch! Os da chi’n edrych am rywbeth i swper, beth am gymryd rhan cyn aros mlaen am fwyd ar y diwedd?