Weithiau mae rhwystrau sy’n golygu bod pobl yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu perthyn i rai mudiadau, cymdeithasau neu gymunedau.
Wrth geisio cael gwared ar y rhwystrau, gallwn holi ambell gwestiwn i’n hunain a’u trafod, gan feddwl yw hyn yn rhwystr, oes angen newid rhywbeth, a sut.
- Sut ydyn ni’n cael ein gweld gan bobl o’r tu fas?
- Oes rhwystrau cymdeithasol i rai pobl allu ymuno? Efallai nad ydynt yn deall y mudiad a’i nod a’i natur, er enghraifft
- Oes rhwystrau ariannol gwirioneddol i bobl fod yn rhan o’r gweithgarwch?
- Wrth hyrwyddo, ydyn ni’n gwneud hynny y tu hwnt i’n cylchoedd ni ein hunain ac mewn dulliau amrywiol?
- Ydyn ni i gyd yn cyflwyno ein hunain ar ddechrau ‘cyfarfodydd’? Fyddai hyn yn arfer da sydd angen i ni ddechrau ei ddilyn?
- Ydy’r lleoliad yn fan hygyrch a chroesawgar i bawb?
Gallai rhai deimlo na allant ymuno oherwydd rhwystrau penodol neu gorfforol. Mae’n bwysig adnabod yr anghenion a’r atebion, a gwneud trefniadau ar gyfer pobl nad ydym efallai’n gwybod beth yw eu hanghenion. Mae hefyd yn werth hyrwyddo’r ffaith bod camau wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r ystyriaethau hyn.
Ar gyfer pobl fyddar neu rannol fyddar:
- Lleihau sŵn cefndir
- Ei gwneud hi’n hawdd iddynt aros yn agos i’r sain/siaradwr i allu darllen gwefusau
- Peidio siarad yn rhy glou
- Holi’n hunain: yw pawb wedi cael cyfle i gyfranogi yn y sgwrs?
Ar gyfer pobl ddall neu rannol ddall:
- Yw trafnidiaeth yn broblem o ran cyrraedd ein gweithgarwch?
- A oes rhwystr i rywun sy’n ddall i gyfranogi, a sut mae goresgyn hynny?
- Oes dulliau cyfathrebu gweledol yn cael eu defnyddio? Oes modd dod o hyd i ffordd wahanol o wneud hyn?
Ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn:
- A oes rhwystrau o ran cyrraedd y lleoliad?
- Yw’r lleoliad ei hun yn addas i bawb?
- Yw’r wybodaeth am y cyfleusterau wedi’i chyfathrebu’n glir?
Dod Ynghyd
Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.