Sesiynau Bro360 yn sbarduno 3 podlediad newydd

Y sesiynau hyfforddiant gydag Aled Jones, Y Pod, wedi ysgogi tri pod newydd yn y Gymraeg

Mae sesiynau hyfforddiant Bro360 ar greu podlediadau wedi arwain at gyhoeddi tri pod newydd yn y Gymraeg.

Yn y gwanwyn cynhaliwyd dwy sesiwn ar gynhyrchu, recordio a golygu podlediad gyda’r arbenigwr Aled Jones, Y Pod.

O blith yr 16 o bobol a fanteisiodd ar y sesiynau, mae tri bellach wedi cyhoeddi eu cyfres podlediadau eu hunain – Alaw Griffiths gyda pod Barddas, Dafydd Hedd gyda Y Calendr, a Mirain Llwyd Roberts gyda’r gyfres Pontio’r Cenedlaethau.

 

Barddas – Alaw Griffiths

‘Sgyrsiau rhwng beirdd gorau Cymru’. Yn y bennod gyntaf, mae’r Prifardd Mererid Hopwood yn sgwrsio efo’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan am ei lyfr DNA. Mae Geraint Roberts yn trafod llyfr o’r archif, Siarad Trwy’i Het, gan Karen Owen a chlywn sgwrs efo’r Prifardd Twm Morys, golygydd cylchgrawn Barddas, cyn i Gwyneth Glyn ddarllen un o gerddi Arwyn Evans.

 

Y Calendr – Dafydd Hedd

Podlediad sy’n cynnwys sgwrs rhwng yr artist unigol o Fethesda, Dafydd Hedd, ag artistiaid newydd neu rai sydd ar labeli bychain ar draws Cymru gyfan.

 

Pontio’r Cenedlaethau – Mirain Llwyd Roberts

Sgyrsiau rhwng unigolion sy’n gweithio, gweithredu, ymchwilio ac yn cymryd rhan mewn prosiectau sy’n pontio’r hen a’r ifanc yng Ngwynedd.

 

Fe soniodd Aled yn y sesiynau bod dros 140 o bodlediadau yn y Gymraeg erbyn hyn (a dim ond 38 oedd wedi’u creu yn 2019)… wel mae’r ffigwr hynny o leiaf 3 yn uwch erbyn hyn!

Oes gennych chi syniad am bodlediad, ond ddim yn siŵr ble mae dechrau?

Porwch y cynghorion ar gynhyrchu eich podlediad cyntaf – sy’n edrych ar sut i gynllunio, a phethau i’w hystyried wrth greu, dewis pwnc, ymdrin â’r offer, recordio a golygu.

Screenshot-2021-03-18-at-16.03.15

Sut mae creu eich podlediad cyntaf?

Lowri Jones

Llwyth o gynghorion ar sut mae cynllunio, recordio a golygu podlediad gan Aled Jones, Y Pod