Sut mae creu eich podlediad cyntaf?

Llwyth o gynghorion ar sut mae cynllunio, recordio a golygu podlediad gan Aled Jones, Y Pod

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Screenshot-2021-03-18-at-16.03.15Aled Jones, Y Pod

Oeddech chi’n gwybod bod dros 140 o bodlediadau yn y Gymraeg erbyn hyn?

Pan ddechreuodd Aled Jones weithio ar Y Pod yn 2019, dim ond rhyw 38 o bodlediadau Cymraeg oedd yn cael eu creu. Bellach, mae’n rhedeg gwasanaeth sy’n hyrwyddo podlediadau Cymraeg – ewch i ypod.cymru i weld y pods Cymraeg i gyd mewn un man.

Daeth Aled at Bro360 i rannu ei arbenigedd fel cynhyrchydd profiadol gyda chriw o bobol sy’n awyddus i droi eu syniad yn bodlediad, ac ymuno â chyfrwng-y-funud!

Os oes gennych chi syniad am bodlediad, dyma ambell ail o gyngor i’ch helpu ar hyn o ffordd. Cofiwch gysylltu â ni yn Bro360 os hoffech drafod eich syniad neu gael help pellach.

Pam dechrau podlediad?

  • Mae’n rhoi’r cyfle i chi fod yn arbenigwr yn y maes. Y mwya niche yw’ch pwnc, y gorau!
  • Mae’n gyfle i chi sgwrsio â phobol ddiddorol.
  • Mae’n ffordd dda o gysylltu â’ch cynulleidfa, sydd eisiau gwrando a dysgu.

Os ydych chi’n hoffi pobol ac yn hoffi gwrando, yn ogystal â siarad, gallech wneud cyflwynydd podlediad da.

Un o fanteision y cyfrwng yw y gall fod mor gymhleth neu mor hawdd ag ydych chi’n dymuno. Cyn dechrau, meddyliwch pa mor aml ydych chi eisiau recordio, ydych chi am sgriptio, lled-sgriptio neu gynnal sgyrsiau cwbl naturiol, a beth fydd yn gwneud i’ch pod chi sefyll allan.

Cynllunio eich cynnwys

  • Mae cynllunio penodau o flaen llaw yn bwysig, er mwyn arbed amser golygu.
  • Dewiswch westeion yn ofalus. Mae’n syniad cael sgwrs cyn y podcast i weld os yw’r cyfranogwr yn siaradus.
  • Strwythur: cyflwyniad + sgwrs + diweddglo.
  • Gallwch recordio’r cyflwyniad ar y diwedd, a chyfeirio at rywbeth sydd i ddod yn y sgwrs.

Mantais datblygiadau’r we a’r offer sydd ar gael yn rhad, yw nad oes angen cael stiwdio recordio broffesiynol er mwyn recordio pod. A dweud y gwir, mae llawer o gyflwynwyr radio proffesiynol wedi gorfod troi eu stafelloedd gwely’n stiwdios ‘cartre’ yn ystod Covid, a byddai’r gwrandawyr ddim callach!

Mae yna ambell beth y gallwch eu gwneud i ail-greu naws stiwdio recordio yn eich cartref…

  • Recordio mewn ystafell dawel – heb oergell, air con, a sŵn o’r tu allan.
  • Byddai stafell fach gyda chelfi meddal yn well.
  • Ewch o dan y duvet – dyna sut mae cael y sain mwyaf meddal!

Recordio dros y we

Pan fydd modd cwrdd dros baned i gyfweld â gwestai, gallwch ddefnyddio meicroffon bach rad a’i gosod yng nghanol y bwrdd i recordio. Mae’n syniad recordio ar eich ffôn symudol hefyd, fel bod gennych gopi wrth gefn.

Ond tra bod cyfyngiadau Covid yn parhau, beth am recordio eich gwestai ar-lein?

Gallwch ddefnyddio rhaglen ar-lein o’r enw Zencastr i recordio sgyrsiau sain ddwyffordd. Gyda’r pecyn rhad ac am ddim gallwch recordio MP3s a siarad gydag un person arall. Bydd yn cadw’r ffeiliau sain fel traciau ar wahân ar eich cyfrifiadur, yn ogystal â dros y we.

Ar ôl trefnu eich cyfarfod ar Zencastr gallwch anfon dolen URL i’r cyfrannwr arall. Ond un peth i’w gofio gyda’r rhaglen yw bod yn rhaid i bawb ei defnyddio ar borwr Chrome neu Firefox. Nid yw’n cefnogi porwyr fel Safari neu Internet Explorer ar hyn o bryd.

Tips recordio

  • Gwisgwch glustffonau, er mwyn clywed yn union beth sy’n cael ei recordio (ac osgoi anghofio pwyso’r botwm ‘record’!)
  • Nid cynyddu’r sŵn yw diben y botwm gain – ond sensitifrwydd y meic. Byddwch chi am i’r gain fod yn isel,   er mwyn clywed y llais yn unig.
  • Cymrwch gyfrifoldeb am bethau technegol, er mwyn gwneud bywyd yn haws i’ch cyfrannwr.
  • Byddwch yn dawel pan fydd eich gwestai’n siarad.
  • Gwnewch nodiadau o bethau difyr a phethau y byddwch am eu tynnu allan, gan nodi’r cod amser.
  • Trefnwch eich ffeiliau – crëwch ffolder ar gyfer pob pennod a rhowch enwau addas i’ch ffeiliau sain yn syth.

Tips golygu

  • Mae’r pods mwyaf llwyddiannus wedi’u golygu ond yn swnio fel petai nhw heb gael eu golygu.
  • Does dim rhaid golygu braidd dim, os nad ydych yn dymuno. Ond ar y lleiaf, dylech greu intro ac outro i’ch pod.
  • Wrth olygu, canolbwyntiwch ar y stori a threfn.
  • Mae’n arfer da i wneud y pethau mawr cyn y pethau bach.
  • Bydd hi’n haws golygu ar sgrîn fawr cyfrifiadur na sgrîn fach ffôn, er mwyn gweld yr holl draciau ac opsiynau gyda’i gilydd.
  • Mae sawl rhaglen golygu ar gael, ac mae Audacity am ddim ac ar gael ar y PC a’r mac. Mwy am hynny yn y man.

Defnyddiwch eich sgiliau golygyddol, a holwch gwestiynau i chi’ch hunan wrth wrando nôl. Ydy hwn yn tynnu i ffwrdd o’r hyn dwi eisiau ei gyfleu i’r gwrandawyr? Gadewch rai pethau i mewn – mae’r gwrandawyr eisiau sain naturiol. Ac mae llai yn fwy effeithiol, felly does dim angen llwyth o effeithiau sain.

Mae’n syniad da gadael y gwaith ar ôl golygu, a mynd nôl i wrando fel gwrandäwr y diwrnod wedyn.

Tips cynnwys cerddoriaeth

  • Y lle mwyaf addas i roi cerddoriaeth yw yn y cyflwyniad ac ar y diwedd.
  • Gallwch ddefnyddio darn bach (2 neu 3 eiliad) o gerddoriaeth fel ‘sting’ i dorri ar draws sgwrs, os oes angen.
  • Os ydych am ddefnyddio cerddoriaeth cefndir i’r sgwrs, mae angen iddi fod yn ddistaw.
  • Mae’n rhaid cael trwydded cyn defnyddio unrhyw gerddoriaeth.
  • Dyma rai safleoedd poblogaidd ar gyfer cael cerddoriaeth trwydded agored / creative commons: YouTube Audio Library, The Free Music Archive.
  • Ni chewch ddefnyddio cerddoriaeth fasnachol heb drwydded. Ddim yn unrhyw iaith. Dim hyd yn oed 1 eiliad ohono!
  • Os ydych am ddefnyddio miwsig gan artist Cymraeg, er enghraifft, rhaid i chi gael caniatâd gan yr artist a’r label recordio, gan roi cydnabyddiaeth iddynt yn y pod.

Dim ond rhai o’r cynghorion gan Aled sydd yma. Os hoffech fynd amdani i greu eich pod ac ymuno â’r 140+ o bods Cymraeg sydd ar gael, dewiswch bwnc sy’n eich diddori, defnyddiwch yr offer sydd ar gael i chi, a mwynhewch!

Mae Y Pod ar gael i gynnal hyfforddiant a gweithdai podlediadau gyda phob math o griwiau – cofiwch gysylltu ag Aled am ragor o wybodaeth.

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)