“Ymroi i gynnal cyfleoedd i gymdeithasu” er lles ein hiechyd

Ar BroAber360 mae esiampl o ddigwyddiad y gall pob pentre, mudiad neu glwb ei gynnal yn ddiogel

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’n swnio’n syml. Wac fach o gwmpas y pentre.

Ond weithiau, y pethau symlaf yw’r pethau gorau.

Ddydd Sul, trefnodd trigolion Llanddeiniol gyfle i fynd am dro – “i fwynhau golygfeydd godidog ein milltir sgwâr a chlonc gyda chyfeillion”.

Creu fideo ar y wac

Ac ar BroAber360 mae fideo fach gan Enfys Medi – un o’r trefnwyr – lle mae’n rhannu rhai o’r golygfeydd, a theimladau rhai o’i chyd-bentrefwyr am bwysigrwydd creu cyfleoedd i ddod ynghyd yn saff.

Ond yn bennaf, mae stori Enfys yn rhannu’r syniad. Un syniad yw hwn o sut gall pob pentre, mudiad neu glwb barhau i ddod at ei gilydd (yn yr awyr agored, gan gadw at gyfyngiadau Covid) er lles iechyd meddyliol a chorfforol pobol.

Gallwch chithau hefyd ddefnyddio eich gwefan fro i rannu syniadau am sut i ddod ynghyd yn ddiogel. Pwy â ŵyr? Efallai mai eich syniad chi fydd y sbardun sydd ei angen ar glwb neu griw yn rhywle arall?

Troi ein golygon at y filltir sgwâr… yn greadigol

Yn ystod yr argyfwng, un peth sydd wedi codi dro ar ôl tro yn sgyrsiau Prosiect Fory a gynhaliwyd gan Bro360, yw cymaint y mae pobol wedi gweld eisiau cwmni pobol. Yn ysu am weithgareddau a chyfleoedd i ymwneud â’n rhwydweithiau cymdeithasol.

Gan fod y filltir sgwâr a’r gymdogaeth leol wedi troi i fod yn fwy amlwg-bwysig i bobol yn ystod y cyfyngiadau llym, a fydd hynny’n cynnig atebion i ni dros y gaeaf, wrth i ni geisio ailgydio yn ein ffordd o fyw?

Fel mae Enfys yn sôn, “mae’r nos yn tynnu ati’n syndod o gyflym a phwysig iawn yw gwneud y mwyaf o’r diwrnodau braf prin yma i ddod ynghyd a chymdeithasu. Gall y gaeaf fod yn hir dan warchae’r firws ond mi fydd yn rhaid i ni fod yn greadigol wrth feddwl am ffyrdd i barhau i gynnal gweithgarwch ein pentrefi.”

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)