Creu cymdeithas ôl-Covid sy’n “cymryd y pethau gorau mas o’r ddau gyfnod”

Pobol gogledd Ceredigion gymrodd y cam cyntaf at ddychmygu’r dyfodol gwaethaf… a’r gorau… posib.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Wrth gydnabod bod cyfnod y coronafeirws wedi herio ein ffordd o fyw ac yn dal i wneud hynny, y teimlad yn nhrafodaeth gyntaf Prosiect Fory oedd bod modd i ni adeiladu “normal newydd” gwell ar ôl yr argyfwng.

Set o dri chwestiwn yw hanfod Prosiect Fory. Tri chwestiwn sy’n cael eu holi i griwiau o bobol ar lawr gwlad i’w helpu i adnabod pa fath o gymdeithas y’n ni am fyw ynddi wedi’r argyfwng.  A sail y drafodaeth yw’r gymdeithas ddydd-i-ddydd ry’n ni’n byw ynddi, yn gweithio ynddi ac ynn cyfranogi ohoni.

Nos Fercher 10 Mercher daeth criw o bobol o ogledd Ceredigion ynghyd ar Zoom dan faner BroAber360 a Radio Beca i gynnal y sgwrs gyntaf o’i math. Bu’r criw yn adnabod rhinweddau ein bywyd blaenorol a’n bywyd presennol yn ogystal â’n hegwyddorion craidd, er mwyn adeiladu ar hynny wrth addasu i’r dyfodol.

A chafwyd llwyth o syniadau cadarnhaol am gymdeithas well i ddod, os gallwn ni gydio yn y gorau o’n bywydau cyn-Covid ac yn-ystod-Covid.

Mae creu cymdeithas yn gymhleth

Roedd sawl cyfranogwr yn gyndyn iawn i fynd nôl i’r “rhuthr gwyllt” o fywyd blaenorol. Mae ’na le i wneud gwell defnydd o dechnoleg, ond dylsem ofalu na fyddwn yn colli’r cyswllt wyneb yn wyneb hollbwysig wrth ymwneud â’n gilydd. Ac mae ’na beryglon a chyfleoedd i fusnesau bach a mudiadau yn y cyfnod nesa yma…

Ond roedd yna gonsensws bod dechrau wrth ein traed ac adeiladu seiliau cadarn yn lleol – o ran yr economi, democratiaeth, grym, diwylliant a ffordd o fyw – yn fan cychwyn pwysig.

Bu’r criw yn adnabod rhai ffactorau y mae angen eu taclo er mwyn creu cymdeithas well – eu taclo yn ein cymdogaethau lleol i ddechrau, gan y bydd hynny’n siapio ar yr effaith genedlaethol a byd-eang yn y pen draw.

Dyma ddechrau’r daith tuag at greu fory well, o’r gwaelod lan.

Y tri chwestiwn

Dyma’r tri chwestiwn sy’n sail i drafodaethau agored Prosiect Fory:

1. Ble oedden ni cyn ymyrraeth yr argyfwng?

2. Beth yw’r gwaethaf a all ddigwydd wedi i’r argyfwng glirio?

3. Beth yw’r gorau all ddigwydd? Pa gyfleoedd sy’n ymddangos yn sgil yr ymyrraeth?

Beth nesa i Prosiect Fory?

Fe fydd sesiwn debyg yn cael ei chynnal gyda phobol ardal Llanbed nos Fercher (24 Mehefin). Ebostiwch lowrijones@golwg.com i gael y ddolen i’r sgwrs Zoom, fydd yn dechrau am 7.30pm.

Er mai Lowri sy’n llywio’r ddwy drafodaeth yma, mae pobol eraill wedi mynd ati i lywio sgyrsiau gyda chriwiau lleol hefyd. Ac rydym yn eich annog chi i wneud!

Os hoffech chi gael patrwm y drafodaeth i’w dilyn gyda phobol eich pentref neu’ch mudiad chi, mae croeso mawr i chi gysylltu â Lowri neu Euros ar ymhol@radiobeca.cymru.