Tasg fach #3 – sgwennu pwt o stori gryno

Dyma dy gyfle i gyfrannu at ffrwd ’diweddaraf’ newydd sbon dy wefan fro

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Efallai y byddi di wedi sylwi bod rhywbeth newydd wedi ymddangos ar bob un o’r gwefannau bro – rho groeso i’r ffrwd ’diweddaraf’.

Beth yw hwn?

Wel, lle i gyfrannu pwt bach o newyddion, neu stori gryno. Os oes gen ti rywbeth bach i’w rannu ond dwyt ti ddim am sgwennu stori sy’n cynnwys llawer o destun / lluniau / fideos, dyma’r lle i ti!

Beth alla’ i ei rannu?

Unrhyw beth! Ond dyma ambell awgrym:

  • cyfarchion – croesawu babi newydd i’r byd neu ddymuno pen-blwydd hapus arbennig!
  • diweddariadau traffig
  • newyddion brys o’r pentre
  • cyhoeddiadau
  • posts difyr ti’n eu gweld ar Facebook, Twitter neu Instagram!

Sut / shwt mae gwneud?

Dilyn y cyfarwyddiadau yma –

Sut mae cyfrannu at ffrwd ‘diweddaraf’ y wefan fro

Lowri Jones

Mae ffrwd newydd sbon ar dy wefan fro – lle i gyfrannu straeon cryno!

 

Pam?

Gallai hwn fod yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth leol dros y cyfnod nesa ’ma.

Cer amdani i arbrofi, a rho wybod yn y sylwadau sut mae’n gweithio i ti!