gan
Lowri Jones
Efallai y byddi di wedi sylwi bod rhywbeth newydd wedi ymddangos ar bob un o’r gwefannau bro – rho groeso i’r ffrwd ’diweddaraf’.
Beth yw hwn?
Wel, lle i gyfrannu pwt bach o newyddion, neu stori gryno. Os oes gen ti rywbeth bach i’w rannu ond dwyt ti ddim am sgwennu stori sy’n cynnwys llawer o destun / lluniau / fideos, dyma’r lle i ti!
Beth alla’ i ei rannu?
Unrhyw beth! Ond dyma ambell awgrym:
- cyfarchion – croesawu babi newydd i’r byd neu ddymuno pen-blwydd hapus arbennig!
- diweddariadau traffig
- newyddion brys o’r pentre
- cyhoeddiadau
- posts difyr ti’n eu gweld ar Facebook, Twitter neu Instagram!
Sut / shwt mae gwneud?
Dilyn y cyfarwyddiadau yma –
Sut mae cyfrannu at ffrwd ‘diweddaraf’ y wefan fro
Mae ffrwd newydd sbon ar dy wefan fro – lle i gyfrannu straeon cryno!
Pam?
Gallai hwn fod yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth leol dros y cyfnod nesa ’ma.
Cer amdani i arbrofi, a rho wybod yn y sylwadau sut mae’n gweithio i ti!