Pethau bach i gryfhau ein gwefan fro #Tasg1

Dydd Llun: Tasg fach y gall pawb yn Arfon, gogledd Ceredigion ac ardal Llanbed ei gwneud heddiw

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gyda mwy o bobol yn chwilio am straeon cadarnhaol, mwy o bobol yn ein cymunedau’n cydweithio i helpu cymdogion, a mwy o’r to hŷn yn defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad, mae mwy o angen am wasanaeth dy wefan fro nag erioed.

Mae pethau bach, hawdd y gallwn ni i gyd eu gwneud yr wythnos hon i roi hwb i’r wefan a dangos ei bod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth ac ysbrydoliaeth, ac yn ffordd dda o gadw cyswllt rhwng pobol yn ein bro.

Tasg fach heddiw:

? Mynd i dy wefan fro a chreu cyfrif i dy hunan, ac annog ffrind i wneud!
Yna, byddi di’n barod i gynnig sylwadau ar straeon eraill a ‘diolch’ am y goreuon!

Dyma sut mae gwneud:

? Wyt ti’n frodor?

Lowri Jones

Beth yw brodor? A beth yw brodor un o wefannau Bro360? Dyma sut mae ymuno â’r rhwydwaith…

Pa wefan yw dy un di?

gogledd Ceredigion – BroAber360.cymru
ardal Llanbed – Clonc360.cymru
Dyffryn Nantlle – DyffrynNantlle360.cymru
Dyffryn Ogwen – Ogwen360.cymru
Caernarfon – Caernarfon360.cymru
Dyffrynoedd Peris a Gwyrfai – BroWyddfa360.cymru

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)