? Wyt ti’n frodor?

Beth yw brodor? A beth yw brodor un o wefannau Bro360? Dyma sut mae ymuno â’r rhwydwaith…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

“aelod o glwb neu gymdeithas”   |   “un o’r trigolion cysefin”   |   “cydwladwr”

Dyna 3 ystyr gwahanol i’r gair ‘brodor’ (GPC). A bellach, mae ystyr arall!

Er y bydd pawb (sydd â chysylltiad â’r we) yn gallu gweld a chlywed popeth fydd yn digwydd ar eich gwefannau bro newydd, bydd angen cofrestru fel BRODOR er mwyn rhannu eich stori, ychwanegu digwyddiad i’r calendr digidol a gwneud defnydd llawn o’r gwasanaeth.

Ydych chi am fod yn un o’r brodorion cynta ar rwydwaith 360.cymru?

Cewch amdani heddiw – dylsai gymryd llai na munud!

  • Ewch i 360.cymru
  • Pwyswch Ymuno
  • Cofrestrwch trwy gyfrif Facebook neu Twitter, neu nodwch eich enw a’ch ebost a disgwyliwch i ebost gyrraedd (cofiwch checio eich ffolder rwtsh)
  • Cliciwch ar y ddolen er mwyn gosod eich cyfrinair

Daw’r cyfan i’r amlwg, cam wrth gam, yn y fideo fach yma:

 

A dyna ni! Ry’ch chi’n frodor ac yn barod i gyfrannu eich stori gynta!

Mae’n ddyddiau cynnar wrth gwrs – ry’n ni’n dal i dyfu a datblygu’r rhwydwaith o wefannau bro, ac mae ambell i blip technegol yn siŵr o godi. Felly os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion, plîs cysylltwch â lowrijones@golwg.com.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.