Spŵffs, steddfod ac englyn, ffotomarathon a ’marathon’ arall i Baris a nôl…

Rhaid o brif straeon y gwefannau bro yr wythnos hon. Sgen ti stori ar gyfer wythnos nesa? Amdani!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Newyddion da yr wythnos – cynlluniau cymorth yn codi’n organig

Podlediad newydd sbon gan Lleu Bleddyn – gohebydd golwg360 sy’n gweithio ar straeon lleol o Arfon a Cheredigion. Gwerth gwrando, rhannu a thanysgrifio i glywed mwy.

Cefen gwlad ar waith – podlediad Bwletin Bro

Lowri Jones

Yng nghanol yr helynt, mae newyddion da – cynlluniau cymorth yn codi’n organig mewn ymateb i Covid19

 

Llun(iau) yr wythnos – holl enillwyr Ffotomarathon Aber

Cystadleuaeth ddigidol eleni a ddenodd gannoedd o gystadleuwyr dros benwythnos y Pasg. Diolch i Deian Creunant am y straeon ar BroAber360.

Ffotomarathon unigryw a llwyddiannus

Deian Creunant

Dros fil o luniau wedi eu cyflwyno dros y pedwar diwrnod i’r ffotomarathon Pasg

 

Sengl yr wythnos – KIM HON

Parti Grwndi yw sengl newydd y band o Ddyffryn Nantlle, sydd allan heddi. Rhowch eich headphones yn eich clustia a mwynhewch y sŵn…

Sengl Newydd: KIM HON – Parti Grwndi.

Iwan Williams

Gwrandewch ar sengl newydd Kim Hon

Spŵff yr wythnos – ‘Gwenith’ neu Gwion?

Does dim rhaid cymryd ein hunain yn rhy o ddifri’, oes e? Mae criw o bobol ifanc yng Ngheredigion wedi dechrau gwneud hwyl am ni’n hunain a’n hymatebion amrywiol i fywyd yn hunanynysu. Pa un o’r rhain yw’r hoff spŵff chi?

Curo Corona’n Cwcan

Lowri Jones

Ti ’di bod yn cwcan mwy yn ystod y corona, fel Gwion Ifan?

 

Stori chwaraeon yr wythnos – ymddeoliad Rhun Williams o’r gamp

Dim jest unrhyw stori yw hon ar BroWyddfa360, ond englyn – ie wir – i Rhun Williams o Lanrug sydd newydd ymddeol o fyd rygbi wedi anaf.

Tudalen Chwaraeon Eco’r Wyddfa – Ymddeoliad cynnar

Eco'r Wyddfa

Englyn o ddiolch i Rhun Williams o Lanrug, gorfu ymddeol yn gynnar o’i yrfa rygbi yn dilyn anaf

 

Fideo(s) yr wythnos: Steddfod Capel y Groes

Fe fu bron i Steddfod fach Capel y Groes (ger Llanwnnen, Llanbed) dorri’r we ddydd Mercher wrth gynnal steddfod leol ar-lein! Y cyntaf yn y byd erioed? Ie, bownd o fod!

Diolch i Luned Mair am fentro. Mae fideos y buddugwyr ar Clonc360.

Eisteddfod leol ddigidol gynta’r byd!

Luned Mair

Mwy na 150 o blant dan 12 yn cystadlu trwy fideo ac ar-lein yn Eisteddfod Capel y Groes

 

Camp yr wythnos – aelodau a ffrindiau CFfI Pontsian (1,117 milltir mewn diwrnod)

Da iawn o Glwb Pontsian am ragori ar eich targed. A mensh arbennig i rywun arall o ardal clonc360 sef Rhythwyn Evans (91 oed fory) sydd am godi arian trwy gerdded rownd ei ardd 91 o weithiau. Pob hwyl gyda’r her, Rhythwyn!

O Gaerdydd i Gaergybi? Na, o Bontsiân i Baris… ac yn ôl

Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân yn llwyddo i godi dros £7,000 ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd