Cefen gwlad ar waith – podlediad Bwletin Bro

Yng nghanol yr helynt, mae newyddion da – cynlluniau cymorth yn codi’n organig mewn ymateb i Covid19

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydych chi’n dyst i ymateb sydyn ac effeithiol ein cymunedau gwledig, pan darodd Covid-19?

Mae ein rhifyn arbennig o bodlediad Bwletin Bro yn holi sut mae criwiau lleol wedi mynd ati i greu cynlluniau cymorth ar frys, er mwyn helpu’r bobol fregus yn lleol wrth iddynt hunanynysu.

Lleu Bleddyn – gohebydd golwg360 sy’n gweithio ar straeon yn Arfon a Cheredigion – sy’n edrych ar effaith y gweithredu cadarnhaol hyn, ac sy’n ystyried gwerthoedd a gallu ein cymunedau heddiw i ymateb yn greadigol pan fo angen.

Tanysgrifiwch i bod Bwletin Bro ar Soundcloud ac ar Apple Podcasts heddiw!

Ydych chi’n ddiolchgar am gymorth eich criw lleol chi? Nodwch yn y sylwadau isod!