Sut mae mynd ati i ‘sgwennu a strwythuro stori?

Mae’n debyg ei bod yn cymryd tair eiliad i rywun benderfynu a yw am ddarllen stori newyddion…

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Ar ôl ‘nabod stori gwerth ei hadrodd, y cam nesa’ yw mynd ymlaen i’w ‘sgwennu.

Ond sut mae mynd ati i wneud hynny? Lle mae rhywun yn cychwyn ’sgwennu stori newyddion?

Mae’n debyg ei bod yn cymryd tair eiliad yn unig i rywun benderfynu a yw am ddarllen stori newyddion ai peidio.

A gyda’r rhan fwyaf ohonom yn cael ein newyddion ar sgrîn bach o ffôn, mae’n bwysig bod hanfod y stori i’w gael yn y pennawd, llun a’r brawddegau cyntaf.

 

Dyma ddeg tip gan Dylan Iorwerth ar sut i lunio’r stori orau yn y byd!

  1. Cofio mai sgwennu ar gyfer y darllenydd ydyn ni.
  2. Brawddegau cryno, a pharagraffau byr er mwyn cynnal diddordeb y darllenydd.
  3. Pennawd uniongyrchol – efo berf.
  4. Defnyddio is-benawdau i helpu’r darllenydd (wrth iddo sgimio-darllen).
  5. Cyfleu hanfod y stori yn y tri neu bedwar paragraff cyntaf.
  6. Pa ddarn o’r stori fyddwch chi’n rhedeg adre i’w dweud? Dyna ydy eich stori.
  7. Ydych chi wedi cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol?
  8. Iaith sy’n gweddu i’ch darllenwyr a’r pwnc – a pheidiwch ag ofni defnyddio tafodiaith eich bro.
  9. Dim jargon.
  10. Bod yn gryno!

 

Sut fyddwch chi’n gwybod a yw eich brawddeg mor gryno ag y gall fod?

Ystyriwch yr arwydd yma ar ben y lôn: “WYAU FFRESH AR WERTH YMA”.

Oes modd cwtogi’r frawddeg yma? Sawl gair sydd gennych, ar ôl cael gwared â phob gair diangen?

Rhowch gynnig arni!

 

Beth, felly, yw strwythur stori newyddion?  

Does dim un ffordd o sgwennu stori. Yn wir, bydd stori nodwedd yn edrych yn wahanol i stori newyddion, er enghraifft. Ond dyma un ffordd o’i gwneud hi:

  • Paragraff 1: Y peth mwyaf trawiadol ynghylch y stori. Yr hyn fyddwch chi’n rhedeg adre i’w ddweud wrth bawb.
  • Paragraff 2 a 3: Adeiladu ar hyn – mwy o wybodaeth, neu ymateb trawiadol.
  • Paragraff 4: Oes datblygiadau pellach sy’n debygol o ddigwydd?
  • Paragraff 5 a 6: Cefndir y stori.
  • Dyfyniadau: O’r ddwy ochr, er mwyn sicrhau cytbwysedd.
  • Cloi: Mwy am y datblygiadau neu’r goblygiadau.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)