“Blwyddyn Ddiwylliannol Newydd Dda!” Neu na?

Pryd fydd eich mudiad chi’n ailddechrau? Helpwch ni i helpu’n gilydd trwy lenwi holiadur byr.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Yn draddodiadol, mis Medi yw’r adeg honno o’r flwyddyn fan fydd partïon canu a chorau a chapeli heb sôn am glybiau Ffermwyr Ifanc, canghennau Merched y Wawr a chlybiau rygbi a phêl-droed a chymaint, gymaint mwy yn ailddechrau cwrdd a joio yng nghwmni ei gilydd. Yn cynnal ein diwylliant.

Ond beth am eleni? Gyda feirws Covid-19 a’r holl gyfyngiadau’n dal o gwmpas, a fydd unrhyw un yn edrych ymlaen at Flwyddyn Ddiwylliannol Newydd? Oes awydd gan yr arweinwyr i ail-gymell bobol ynghyd? Oes hawl ’da nhw gyfarfod? Fydd hi’n sâff? Fydd ’na le?

Yn ystod sgyrsiau llawr-gwlad Prosiect Fory dros yr haf – lle ry’n ni wedi bod yn holi pobol i ddychmygu sut gymdeithas hoffen nhw fyw ynddi ar ôl yr argyfwng – mae pobol wedi codi pryder am allu ac awydd mudiadau i ailddechrau cwrdd.

Mae cyfnod y cyfyngiadau wedi rhoi stop ar gymaint o weithgarwch, ond mae nifer wedi llwyddo i addasu hefyd trwy fanteisio ar gyfryngau digidol newydd a defnyddio eu dychymyg.

A nawr, ddiwedd mis Awst fel hyn, mae arweinwyr lleol wedi dechrau meddwl am y dyfodol, a holi’r cwestiwn ‘sut gallwn ailddechrau cwrdd?’ Ie, er mwyn cynnal ein diwylliant a’n diddordebau, ond hefyd er mwyn i’n haelodau gael digwyddiadau cyson i edrych ymlaen atynt a chyfleoedd i gwrdd â’u ffrindiau dros y gaeaf hir.

Llenwi holiadur i helpu

Rydym ni’n awyddus iawn i helpu cymdeithasau lleol i ddod o hyd i ffordd o ailgydio mewn pethau, ac mae angen eich help chi, aelodau mudiadau a chlybiau ledled Cymru. Llenwch yr holiadur byr (5 cwestiwn) yma am gynlluniau a phryderon eich mudiad cyn 2 Medi.

Bydd yn rhoi darlun cliriach i ni i gyd o’r rhwystrau a ffyrdd o’u goresgyn, er mwyn gallu cynnal y ddynameg o ddod ynghyd dros y cyfnod nesaf yma – yn saff ac yn hapus.