Ailddechrau mudiadau – “gyda ‘chydig o ddychymyg”

Mae angen meddwl o ddifrif am sut gall ein cymdeithasau lleol gwrdd yn yr hydre

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ddydd Gwener diwethaf, fe fues i yn stondin Merched y Wawr ar faes y brifwyl. Fe joies i’r glonc, y te a’r pice ar y maen (gan dim llai na 5 gwahanol gwmni!) A jiw, roedd y tywydd yn ddigon ffein hefyd – bonws ar gyfer dydd Gwener ola’r Steddfod!

Do, fe wnes i ymuno â Changen Merched y Wawr y Brynie, fel rhyw fath o aelod anrhydeddus am y dydd; ac ie, yn ein dychymyg oedd y ‘stondin’ yn Eisteddfod Tregaron!

Fe benderfynodd Mam, oedd ar fin bennu ei chyfnod fel Ysgrifennydd y Gangen, y byddai’n braf creu rheswm i’r criw o ffrindiau gwrdd. Doedd llawer ohonyn nhw heb weld ei gilydd ers mis Mawrth, pan ddaeth gweithgareddau’r mudiad a phob mudiad arall i ben yn sydyn. A fi oedd y ‘Swyddog Diogelwch’ – yn gweini mewn masg a menig i wneud yn siŵr bod pawb yn teimlo’n saff.

Fe wnaeth pawb elwa mwy na jyst paned a chacen o’r diwrnod. Roedd yn gyfle i sgwrsio am y pethau bach hollbwysig yna sydd wedi bod yn digwydd yn lleol (pa mor fishi oedd Cei, shwt oedd cymdogion wedi bod yn ymdopi, a faint oedd wyrion ac wyresau’n pryfio!)

Ond roedd hi’n gyfle hefyd i rannu teimladau am gyfyngiadau’r Covid. Y duedd dros y misoedd diwethaf yw ein bod ni’n dueddol o drafod pethau gyda’r bobol ry’n ni’n eu gweld amlaf – y bobol sy’n byw yn ein cartref neu drws nesa, a phobol sydd wedi dewis dechrau cymdeithasu â’i gilydd. Prin yw’r cyfleoedd diweddar i glywed barn pobol sy’n meddwl yn wahanol i ni – pobol sydd heb fod i unman, neu sydd wedi gorfod hunanynysu’n gaeth, er enghraifft.

Un o’r trafodaethau mawr oedd pryd a sut y gallai’r gangen hon o Ferched y Wawr ailddechrau cwrdd. Am ba hyd fydd y tywydd yn caniatáu cynnal pethau mas yn yr awyr agored? Faint fydd yn gallu cwrdd mewn neuaddau’n saff pan fyddant yn ailagor? Oes lleoliadau eraill all wneud y job?

Maen nhw’n gwestiynau pwysig y mae arweinwyr ein cymunedau ledled Cymru yn eu hystyried. Yn draddodiadol, dechrau Medi yw dechrau’r flwyddyn ddiwylliannol newydd. Dyma pryd mae mudiadau a chlybiau lleol yn arfer ailddechrau ar ôl hoe yr haf – er mwyn cael achlysuron cyson i edrych mlaen amdanynt trwy’r gaeaf hir.

Eleni, pa gymorth fydd yn cael ei roi i’n harweinwyr er mwyn eu galluogi i ailddechrau un o elfennau sylfaenol cymdeithas – ein diwylliant? Mae llawer iawn o sôn wedi bod am iechyd dros y misoedd diwethaf. Ac erbyn hyn, mae’n teimlo fel pe bai mwy fyth o sôn am yr economi, wrth i gyrchfannau twristiaid agor eu breichiau led y pen i ddenu ymwelwyr i’n bröydd glan môr.

Ond faint o sylw sy’n cael ei roi i impact Covid ar gymdeithas? Ble mae ‘cynnal diwylliant a ffordd o fyw’ yn rhestr blaenoriaethau’r bobol mewn grym?

Gydag adroddiadau bod y Cyfnod Sa’ Draw yn cael effaith ar iechyd meddwl pobol, fe ddylai ein llywodraethau roi cymorth go iawn i alluogi mudiadau i ailddechrau yr hydref hwn.

Ond beth os na wnawn nhw?

Efallai bod angen i ni wneud rhywbeth tebyg i Ferched y Wawr y Brynie – defnyddio ein dychymyg i ffindio ffordd o wneud beth sydd angen ei wneud. Ddywedodd rhywun yn rhywle bod hawl cael hyd at 30 o bobol ynghyd dan do o benwythnos nesa mlaen, os ydych yno ar gyfer ‘priodas’?!

1 sylw

Euros Lewis
Euros Lewis

Da iawn, MyW y Brynie! ‘Na’r gwaetha ‘da’r peth Covid ma yw ei fod e’n neud Neud Dim yn opsiwn rhwydd / yn norm newydd. Sda’r byd gwyddonol dim ateb i fygythiad y feirws to. Ond, ma ‘da’n diwylliant ateb i’w ddrwg-effaith gymdeithasol, sef Dychymyg! Diolch yn fawr i ti, Lowri, am rannu’r enghraifft hon a ni ac am ein hatgoffa o’r antedote sy ar gael yn rhad ac am ddim ar drothwy’r Flwyddyn Ddiwylliannol Newydd 👍

Mae’r sylwadau wedi cau.