Mae twf aruthrol yn y defnydd o gyfryngau digidol, ac mae print yn gwanhau ar hyd a lled y wlad wrth i fwyfwy gael eu newyddion o’r sgrîn.
Ond, dydyn ni’n sicr heb gyrraedd diwedd ‘oes print’ – ddim yn y Gymraeg, ta beth. Er bod gwerthiant copïau print wedi lleihau’n raddol dros y degawd diwethaf, mae nifer y papurau bro ar draws Cymru sy’n dal i gyhoeddi’n parhau’n iach.
Mae cyfnod y coronafeirws wedi dangos bod y galw’n dal yn gryf ymysg darllenwyr hefyd.
Ond mae’n anodd anwybyddu’r ffaith bod y cyfryngau digidol yn tyfu mewn poblogrwydd, ac mae’n bwysig bod y Gymraeg a’n cymunedau lleol yn manteisio ar y twf hwn. A nawr yw’r amser i wneud hynny.
Cyfnod pontio
Mae gwefannau straeon lleol Bro360 yn ymgais i gamu mewn i’r bwlch rhwng dau gyfnod – yr oes print a’r oes ddigidol. Rydym ni yng nghanol cyfnod pontio ar hyn o bryd, lle mae’r ddau gyfrwng yn rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd.
Gyda phrofiad rhyw 6 mis o helpu tair cymuned (Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a gogledd Ceredigion) i greu a chynnal eu gwefannau straeon lleol newydd, a 6 mlynedd o gydweithio agos rhwng Clonc360 (y wefan straeon lleol gyntaf!) a chwmni Golwg, mae’n gyfle i ni rannu ambell enghraifft o sut gall gwefan fro a phapurau bro ategu a chefnogi ei gilydd.
Enghreifftiau o bapurau a gwefannau bro yn ategu a chefnogi ei gilydd
1. Cyhoeddi pwt o stori o’r papur ar y wefan
Mae Papur Pawb wedi defnyddio gwefan BroAber360 i gyhoeddi lluniau a stori a oedd yn torri ar y pryd am broblemau gyda system carthffosiaeth yn Nhal-y-bont. Roedd angen cyhoeddi’r stori a’r lluniau’n syth, ond roedd yr erthygl yn sôn y byddai mwy o fanylion am hyn yn rhifyn nesa’r papur bro.
2. Peidio dyblu straeon
Mae gan Bro360 ddau Ysgogydd, a’u gwaith nhw yw galluogi pobol leol i greu straeon ar eu gwefan fro. Ond wrth fynd ati i dargedu, maent yn fwriadol yn ceisio annog cynnwys amlgyfrwng, na fyddai fel arall yn gallu ymddangos yn y papur bro print. Dyma syniad o’r cyfryngau hynny:
Maent hefyd yn mynd ar ôl deunydd a fyddai wedi dyddio erbyn dyddiad cyhoeddi’r papur.
Enghraifft berffaith o hynny yw fideos uchafbwyntiau gemau chwaraeon lleol. Mae fideos yn ffordd berffaith o ddenu cynnwys gan bobol ifanc, sy’n dab hand ar ddefnyddio’r ffôn yn eu poced.
Nantlle Vale vs Penrhyndeudraeth
Ac enghraifft arall yw defnyddio traciau sain i rannu uchafbwyntiau Steddfod leol, gan adael cyfle yn y papur i adrodd am yr holl ganlyniadau.
Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen 2019
3. Cyhoeddi colofn o brif straeon y wefan yn y papur
Mae criw lleol Clonc360 yn paratoi colofn ar gyfer y papur, sy’n rhoi syniad o’r 4 prif stori ar y wefan fro yn ystod y mis diwethaf. Cyfle i atgoffa darllenwyr Clonc am y straeon amlgyfrwng sydd ar gael ar y wefan.
4. Cyhoeddi pwt i roi blas
Mae pobol ardal Llanbed yn disgwyl mlaen bob mis i weld pwy sy’n ateb cwestiynau’r ‘Cadwyn Cyfrinachau’ yn Clonc. Ac mae golygyddion y papur wedi darganfod ffordd dda o ddefnyddio’r golofn i hyrwyddo’r papur, sef cyhoeddi ambell un o’r cwestiynau ac atebion ar Clonc360 wrth i’r papur fynd i brint.
Os yw’r darllenwyr am ddysgu mwy am y person difyr dan sylw, rhaid iddyn nhw fynd mas i brynu’r papur!
Sdim pwynt gweud celwydd wrth Mam
5. Y cyfryngau cymdeithasol yn fan cychwyn
Yn aml, mae straeon lleol yn dechrau fel brawddeg neu lun ar gyfryngau cymdeithasol. Mae gwefan fro yn gallu dangos posts Twitter perthnasol ar y Ffrwd Diweddaraf.
Mae’n ffordd rwydd o fanteisio ar y cyfryngau y mae pobol eisoes yn eu defnyddio i gyhoeddi, ac yn ffordd dda o roi sylw i newyddion sy’n torri.
Y dyfodol – print a digidol?
Ein nod gyda’r gwefannau bro yw aildanio cymdeithas â’r un egni a brwdfrydedd a welwyd yn y 70au a’r 80au pan grëwyd y papurau bro. Ond y cyfle fan hyn, yn 2020, yw defnyddio dulliau amlgyfrwng ac ar-y-funud y cyfryngau digidol poblogaidd i ddenu cyfranogwyr a darllenwyr/gwylwyr/gwrandawyr newydd.
Mae’r cryfder yn y cydweithio, ac rydym yn falch o fod wedi gallu camu i’r adwy gyda phrosiect ar wahân yn ystod cyfnod y coronafeirws, i roi platfform i bapurau bro Cymru gyhoeddi ar-lein dros dro, i’w helpu i beidio â cholli momentwm a darllenwyr.
Mae cydweithio â’r papurau bro wedi bod yn fan cychwyn cadarn ar gyfer y gwefannau sydd wedi’u creu eisoes, yng ngogledd Ceredigion, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Caernarfon a Bro Wyddfa.
Trwy fanteisio ar y cyfryngau digidol sy’n tyfu, a rhoi’r gallu i bobol leol newydd gyfrannu’n hawdd at eu gwefan fro, gallwn gyflawni’r canlynol:
- cryfhau hunan-gred pobol
- rhoi hwb i hyder pobol leol i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ’da nhw
- gwella sgiliau digidol pobol o bob oed
- adeiladu cyfrwng newydd gan-y-bobol sy’n epil perffaith i’r papurau bro sy’n dal i gyfrannu cymaint i’n cymunedau.