Sut mae golygu stori ar wefan fro?

Tips defnyddiol i bawb sy’n golygu straeon ar wefannau bro.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae modd i unrhyw berson lleol sydd wedi creu cyfrif ar eu gwefan fro greu drafft o stori. Fel criw o olygyddion lleol, chi sydd â’r grym cyffrous o bwyso’r botwm Cyhoeddi!

Dyma ddangos sut mae golygu stori yn WordPress (meddalwedd y wefan), a rhannu ambell egwyddor golygu allai fod o help i gyhoeddi’r straeon gorau posib.

Sut mae’n gweithio?

Pan fydd cyfrannwr yn pwyso’r botymau ‘barod i’w olygu’ a ‘cadw drafft’, bydd tîm cyhoeddi y wefan honno’n cael ebost i roi gwybod bod stori newydd sydd angen sylw.

Ddim yn siŵr a ydych yn cael yr ebost? Mewngofnodwch, ewch i’r tab ebyst yn eich dewisiadau, ticiwch y blwch perthnasol a’r botwm Cadw.

Os yw pen cefn WordPress yn edrych yn anghyfarwydd i chi, dyma ddangos syn syml beth yw beth:

Sut mae golygu stori?

Gan fod nifer helaeth yn gweld straeon ar ddyfais symudol (dros 60%), mae angen i’r sgrîn gynta’ fod yn fachog. Rhyw 3 eiliad bydd pobol yn rhoi i benderfynu ydyn nhw am ddarllen/gwylio ymlaen.

Prif elfennau’r sgrîn gynta’ yw’r pennawd, y crynodeb, y frawddeg gynta’ a’r prif lun. Canolbwyntiwch ar wella’r rhain (os oes angen!) a bydd y gweddill yn dilyn.

Wrth feddwl am y stori, beth fyddai’r peth cynta’ fyddech chi’n ei ddweud petaech chi’n rhedeg adre i ddweud am y stori – y peth mwya diddorol? Dyma eich pennawd a’ch brawddeg neu ddwy gynta’.

Mae’r golygydd yno i wasanaethu’r darllennwr.

Nid beth sydd bwysicaf i ni na’r cyfranogwr sydd angen i ni ganolbwyntio arno; yn hytrach beth sydd bwysicaf i’r darllenwyr/gwylwyr/gwrandawyr – dyna sail y stori.

  • Dyw penawdau clyfar ddim yn gweithio (ac yn sicr does dim angen cynganeddu… na cheisio cynganeddu!) Cadwch y pennawd yn glir, uniongyrchol a chryno. Gorau’i gyd os yw’n cynnwys berf.
  • Defnyddiwch y blwch ‘crynodeb’ i roi brawddeg o gyd-destun i’r stori. Bydd y crynodeb yn ymddangos ar yr hafan, dan y pennawd.
  • Gorau po fwyaf cryno yw’r pennawd a’r brawddegau yn y testun.

 

Bod yn weledol

  • Defnyddiwch y botwm Rhagolwg i weld sut bydd y stori’n edrych cyn cyhoeddi.
  • Mae lluniau yn hollbwysig ar-lein. Cofiwch bod yn rhaid cael delwedd nodwedd (prif lun) gyda phob stori – er mwyn ymddangos ar hafan y wefan fro ac wrth rannu ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Cliciwch ar y prif lun (yn y gornel dde) i’w haddasu neu ei newid am lun arall.
  • Mwy o gyngor am lluniau a chyfryngau eraill.

 

Testun

Cyfrwng gan-y-bobol yw’ch gwefan fro, ac mae hynny’n ei hanfod yn golygu y bydd cyweiriau straeon yn amrywio, yn ôl y cyfranogwr, y cyfrwng a’r pwnc dan sylw.  

  • Sillafu: Mae teclyn bach handi ar gael (y cylch gyda symbol tic) i wirio sillafu.
  • Cywair: Mae tipyn o ryddid gyda phlatfform digidol fel hyn, ac er mwyn annog cynifer o bobol i gyfranogi ag sy’n bosib gwell annog amrywiaeth ac annog pobol i ddweud pethau yn eu ffordd eu hunain. Ddylen ni ddim disgwyl i adroddiad cymdeithas lenyddol ddefnyddio cywair ac iaith debyg i fideo uchafbwyntiau clwb pêl-droed!
  • Jargon: Newidiwch i eiriau cyfarwydd.
  • Tafodiaith: Mae’n bwysig defnyddio tafodiaith – ydy glei! Ac iaith y bydd darllenwyr eich milltir sgwâr yn teimlo’n gyffyrddus â hi, yndê.

 

Beth yw maint delfrydol stori?

  • Mae’r sgrîn yn fach ar ddyfais symudol, felly dyw pobol ddim am ddarllen llith hir ar y we. Mae stori fer y mae llawer o bobol yn ei darllen a’i rhannu yn well na stori hir does neb yn ei darllen. 
  • Mae pobol am ddarllen yn gyflym ar-lein, felly mae isbenawdau yn ddefnyddiol. Defnyddiwch bwyntiau bwled i grynhoi ffeithiau, yn hytrach na pharagraff.
  • Mae gosod dim mwy na 2 frawddeg mewn paragraff hefyd yn dda i’r llygad wrth sgrolio ar ddyfais symudol. Fel rheol: un paragraff = un frawddeg = un prif syniad

 

Yn olaf

Ar ôl pwyso’r botwm Rhagolwg, ac yna Cyhoeddi, beth wedyn?

Rhannwch ddolen i’r stori gyda chriw llywio eich gwefan fro yn eich grŵp Whatsapp/Messenger. Fel yna, bydd pobol yn siŵr o’i rannu ymhellach ar gyfryngau cymdeithasol, a bydd y stori’n cyrraedd ymhellach.