Cyngor i olygyddion – ymdrin â lluniau a mwy

Ambell air o gyngor wrth gyhoeddi straeon ar wefannau bro.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Golygu lluniau

  • Cofiwch sicrhau eich bod yn hapus gyda’r ddelwedd nodwedd (a’r pennawd) cyn cyhoeddi, trwy bwyso’r botwm Rhagolwg. (Y ddelwedd nodwedd gyntaf honno fydd yn cael ei rhannu’n awtomatig ar gyfryngau cymdeithasol.)
  • Wrth edrych dan y blwch testun, gallwch weld pa luniau (a fideos) sy’n rhan o’r stori.
  • Gan na fydd pob dyfais yn darllen y stori yn yr un ffordd, ni ddylid gosod lluniau yng nghorff y stori. Mae’n well cadw’r lluniau fel oriel, a gosod testun yn unig yn y blwch testun.
  • Tapiwch y llun i weld y capsiwn a’i golygu, cyn pwyso’r botwm Cadw.
  • Bydd pob llun yn ymddangos yn ei siâp gwreiddiol wrth i ddarllenwyr bwyso arnynt (lluniau llorweddol yn llorweddol; sgwâr yn sgwâr; a phortread yn siâp portread). Ond i addasu pa ran o’r llun sy’n ymddangos yn yr oriel tapiwch y llun, defnyddio’r llithrydd lan neu lawr, a phwyso Cadw.
  • I ddileu un o’r lluniau, dewiswch y llun a phwyso Dileu’n barhaol.
  • I newid delwedd nodwedd (sef y prif lun), tapiwch y llun gwreiddiol, yna
    • dewis y tab Llyfrgell Cyfrwng i chwilio am luniau sydd eisoes ar y wefan
    • dewis y tab Chwilio am lun i ddod o hyd i lun trwydded agored. 

 

Lluniau – y manylion 

  • 640 x 396 pixel yw’r maint lleiaf posib ar gyfer derbyn lluniau.
  • Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio sgrîn-luniau o luniau oddi ar ffôn, nac i dderbyn lluniau gan gyfranogwr trwy Whatsapp neu Messenger – bydd safon y llun yn lleihau’n sylweddol.

Dyma ambell air o gyngor gan y ffotograffydd Betsan Haf ar dynnu lluniau da i gyd-fynd â stori:

Tips tynnu lluniau, gan Betsan Haf Evans

Lowri Jones

“Mae pobol yn hoffi gweld lluniau o bobol” a chynghorion eraill gan y ffotograffydd proffesiynol.

 

Hawl i ddefnyddio lluniau

  • Mae hawl cyhoeddi llun sydd wedi’i dynnu gennych chi neu’r cyfranogwr ar dir cyhoeddus.
  • Mae cael caniatâd ar lafar gan riant yn iawn ar gyfer cyhoeddi llun plentyn dan 16 oed, neu gan yr ysgol/sefydliad y maent ynddi ar y pryd. 
  • Mae angen holi caniatâd y perchennog cyn cyhoeddi ei lun ar y wefan fro (e.e. o gyfryngau cymdeithasol).
  • Os nad ydych yn siŵr a oes hawl defnyddio llun gan gyfranogwr (e.e. os yw’n dod o wefan lluniau fel Shutterstock), gwell dewis llun arall.

 

Dolen i wefan arall

Os bydd rhywun am osod URL i wefan arall yn rhan o stori, mae ffordd fach handi o rannu dolen heb iddi dynnu gormod o sylw. Lliwiwch air neu eiriau yn y frawddeg, a phwyso’r botwm mewnosod dolen (o’r rhestr ar ben y blwch testun).

Dyma esiampl: Os yw fy stori wedi eich ysbrydoli, gallwch gyfrannu at meddwl.org heddiw er mwyn fy helpu i gyrraedd y nod. 

Ni fyddem yn argymell bod pobol yn rhannu dolen i gyfarfod Zoom yn gyhoeddus, am resymau diogelwch. Os bydd rhywun yn awyddus i hyrwyddo digwyddiad sydd ar Zoom, holwch a oes modd gosod dolen gofrestru neu ebost yn ei le.

 

Fideos

Gallwch weld pa fideo(s) mae cyfrannwyr yn eu cynnwys gyda’r stori wrth edrych dan y prif flwch testun.

Gyda straeon sy’n cynnwys fideo yn unig, bydd y wefan yn creu delwedd nodwedd yn awtomatig. I newid y ddelwedd nodwedd i ran gwahanol o’r fideo, pwyswch y ddelwedd ac yna symud y fideo at y ffrâm addas, cyn pwyso’r botwm ‘creu prif lun newydd’. Fe fydd yn cymryd cwpwl o eiliadau cyn cadw eich dewis.

 

Y bocsys ar y dde: tagiau, categorïau a blaenoriaeth

  • Mae dewis categorïau ac ychwanegu tagiau i stori yn ei gwneud yn haws chwilio amdani yn nes ymlaen.
  • Gallwch ddewis mwy nag un categori ar gyfer stori.
  • Gallwch benderfynu eich bod am i rai straeon gael blaenoriaeth, trwy dicio’r rhifau 1 i 5 dan Blaenoriaeth ar y dde. Ond cofiwch fynd yn ôl i newid hyn yn aml, rhag i’ch hafan ymddangos yn statig, gyda’r un stori yn aros ar y brig am sbel!

 

Faint o hawl sydd gan olygyddion i olygu ar wefan fro?

  • Chi sy’n cyhoeddi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus gyda’r stori, a chofiwch mai’r darllenydd sydd bwysicaf.
  • Wedi dweud hynny, mae’n bwysig peidio pechu pobol oherwydd annog mwy o bobol i gyfranogi yw’r nod, felly does dim angen gwneud newidiadau diangen.
  • Ceisiwch wneud yn siŵr bod y stori’n darllen fel rhywbeth mae’r cyfranogwr wedi’i greu. Os mai Gareth sy’n cyhoeddi’r stori, ddywedwn ni, mae’n well addasu’r testun i “Dwi’n mynd i fod yn cynnal gig” yn hytrach na “Bydd Gareth yn cynnal gig”.
  • Os ydych am newid rhywbeth yn sylweddol, mae’n syniad trafod y peth gyda’r cyfranogwr lleol ac egluro unrhyw newidiadau mawr (os oes brys i gyhoeddi, trafodwch ar ôl hynny).

 

Cwynion am y cynnwys

Anaml iawn y bydd rhywun yn cwyno am gynnwys gan gyfranogwyr lleol, ond os bydd 3 pherson yn tapio’r botwm ‘cwyno’ ar stori bydd hi’n dod i lawr er mwyn i chi ei hystyried. Cofiwch, yn wahanol i brint, mae modd tynnu rhywbeth i lawr o’r we os oes wir angen. Os oes cwyn ddifrifol, gwell tynnu rhywbeth i lawr dros dro i roi cyfle i chi ystyried.

 

Ddim yn siŵr?

Os nad ydych yn siŵr a ddylech gyhoeddi rhyw ddarn neu bwnc ar eich gwefan fro, cysylltwch â gweddill eich tîm o olygyddion lleol i’w drafod, neu holwch i dîm Bro360 am gyngor.

 

Sut mae golygu stori ar wefan fro?

Dyma ganllaw cam-wrth-gam o sut i olygu stori yn y rhaglen WordPress.