65% o fudiadau heb gynlluniau i ail-ddechrau

70 o fudiadau wedi rhannu eu gobeithion a’u pryderon yn holiadur Prosiect Fory

Lowri Jones
gan Lowri Jones
CFfI Ceredigion

Sosial i ailddechrau CFfI Llanilar

Mewn ymateb i holiadur Prosiect Fory, dywedodd 35% o’r mudiadau a ymatebodd na fydden nhw’n ailddechrau yn yr hydre’, a doedd 30% arall “heb benderfynu”.

Roedd 70 o fudiadau o bob cwr o Gymru wedi ymateb i’r holiadur yn ystod mis Medi – mis a fyddai, yn draddodiadol, yn arwydd o ddechrau’r Flwyddyn Ddiwylliannol Newydd. Roedd y mudiadau hynny’n amrywio o gorau, canghennau MYW, sgowtiaid, CFfI, eglwysi, clybiau cinio, clybiau chwaraeon, cymdeithasau hanes a llenyddiaeth, mentrau cymdeithasol a mwy.

Fe gododd pwysigrwydd mudiadau droeon yn sgyrsiau Prosiect Fory – sgyrsiau sydd wedi’u cynnal dros y misoedd diwethaf mewn sawl cymdogaeth. Er bod pobol yn awyddus i beidio â mynd yn ôl i fel oedd pethau, mae’r awydd i ailgydio yn y pethau hynny sy’n rhoi blas ar fywyd, ac sy’n rhoi cyfleoedd i ni gymdeithasu, yn parhau.

Lleoliadau’n broblem

Y peth mwyaf oedd yn rhwystro’r clybiau rhag ailymgynnull oedd bod “dim modd cwrdd yn ein lleoliad arferol” – naill ai oherwydd bod y lleoliadau’n anaddas, neu oherwydd nad oedd yr adeiladau hynny wedi agor eto.

Er y pryderon, roedd yna obaith hefyd. Roedd dros hanner y mudiadau’n awyddus i ailymgynnull, naill ai ar ôl cael canllawiau clir (gan lywodraeth neu gan swyddfa ganolog eu mudiad) neu ar ôl iddyn nhw feddwl am ffyrdd newydd o gwrdd yn ddiogel.

Gallwch weld canlyniadau’r holiadur yma.

Effaith bositif ar gapeli

Yn wir, roedd rhai eglwysi a chapeli’n rhannu sylw diddorol iawn, yn cydnabod bod cael eu gorfodi i greu myfyrdodau digidol (yn hytrach na phregethau) ar y Sul, a chynnal gwasanaethau ar Zoom (yn lle yn y capel) wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n gwylio, gwrando a chymryd rhan. Mae’r cyfnod wedi bod o fudd annisgwyl i ambell gymdeithas!

Fe rannodd sawl un syniadau am ffyrdd o barhau i gwrdd, ond gwneud hynny’n ddiogel gan leihau’r ddibyniaeth ar adeiladau. Roedd hynny’n cynnwys cynnal gweithgareddau yn yr awyr agored, gan ddilyn y cyfarwyddiadau 2 fetr, neu gynnal gweithgareddau yn ddigidol, e.e. trwy Zoom.

Rhai o’r syniadau am weithgareddau diogel i’w cynnal

  • Cwis, neu bingo ar Zoom
  • Helfa drysor ar-lein
  • Recordio cân ar wahân a’i rhyddhau fel côr
  • Taith gerdded try’r fro
  • Te pnawn mewn gardd neu barc
  • Cynnal cystadlaethau a derbyn cynigion trwy Whatsapp/Messenger

Yn ogystal â rhannu syniadau yn yr holiadur, mae nifer o gymdeithasau wedi troi at eu gwefan fro i rannu syniadau a phrofiadau yn ystod y cyfnod rhyfedd yma. Dyma rai ohonyn nhw:

Mynd am dro

Enfys Medi

Trigolion pentref Llanddeiniol yn mynd am dro i fwynhau golygfeydd godidog ar ddiwrnod braf o Fedi.

Adfywiad Clwb Seiclo Sarn Helen

Elinor Morgan

Tŵf mewn poblogrwydd seiclo yn lleol.

Cwis caled yn rhoi cic-start i Caron360!

Lowri Jones

Timau lleol wedi joio cwis am y fro yng nghwmni Emyr a Dan, a thîm Bwlchllan yn dod i’r brig!

 

Ac mae mwy o syniadau fan hyn.

Oes gennych chi syniad?

Rhannwch – trwy greu pwt o stori ar eich gwefan fro, neu trwy roi sylwadau isod ?

* * *

Pwy yw Prosiect Fory?

Ni yw Prosiect Fory – bawb sydd am fod yn rhan o’r symudiad tuag at y dyfodol.

Mae’r fenter yn cael ei harwain gan bartneriaeth rhwng Radio Beca a Bro360. Nod y ddau yw rhoi’r grym i bobol siapio cymdeithas trwy ysgogi trafodaeth am syniadau, a galluogi darlledu’r syniadau hynny er mwyn eu rhannu’n eang.