Cwis caled yn rhoi cic-start i Caron360!

Timau lleol wedi joio cwis am y fro yng nghwmni Emyr a Dan, a thîm Bwlchllan yn dod i’r brig!

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Screenshot-2020-08-06-at-16.16.12
Screenshot-2020-08-06-at-16.16.23
Screenshot-2020-08-06-at-16.17.01
Screenshot-2020-08-06-at-16.17.16
Screenshot-2020-08-06-at-16.17.24
Screenshot-2020-08-06-at-16.17.37

“Ni’n stryglo bois bach”, “disastyr”, a “diolch, wedi joio”!

Dyna rai o’r sylwadau ar Facebook neithiwr, wrth i bobol ardal Tregaron gymryd rhan mewn cwis i lansio gwasanaeth lleol newydd Caron360.

Y cymeriad lleol Emyr Lloyd oedd wrth y llyw. Wel – fe oedd yn ymgeisio i holi’r cwestiynau! Roedd hiwmor a chamgymeriadau diniwed Emyr yn rhan fawr o’r hwyl, a’i ffordd unigryw o dynnu coes y cystadleuwyr – er nad oedd e’n gallu eu gweld na’u clywed – yn gwneud i bawb chwerthin o’u soffas gydol y noson.

Na, doedd cwis dros Facebook Live ddim cweit yr un peth â chwis yn Neuadd Goffa Tregaron. Doedd dim clonc dros baned neu beint yn y Talbot ar ôl i’r pethe ffurfiol ddod i ben.

Ond mi oedd yna hwyl. Hwyl am fod y cwestiynau, y cystadleuwyr a’r mân siarad rhwng Emyr a Dan (Ysgogydd Bro360 yng Ngheredigion) i gyd yn perthyn i’w gilydd. Yn perthyn i fro Caron.

Mae pethau’n bosib ar lefel bro

Byddai wedi bod yn job ofnadw’ cynnal cwis mor llwyddiannus ar lefel genedlaethol, neu hyd yn oed sirol. Sut ymateb fyddai in-jokes Emyr am fam Twm Sion Cati (y cymeriad chwedlonol – nid Dafydd!) yn ei gael tasai pawb ddim yn dod o’r fro? Ac a fyddai cweit cymaint o ddiddordeb gennym yn sgôrs pawb arall, tase pawb ddim yn adnabod pawb arall?

Bu’r cwis yn llwyddiant. Yn benna’ achos ei fod yn sbort. Ond hefyd achos mai bro Caron oedd canolbwynt y cwestiynau, y bobol a’r bantyr.

Diolch i Emyr a Dan am gyflwyno, i Catrin, Anna, Huw, Guto ac Enfys am baratoi rowndiau amrywiol.

A llongyfarchiadau i dîm Bwlchllan am ddod yn fuddugol!

Os golloch chi’r cwis yn fyw gallwch wylio eto ar dudalen Facebook Caron360, neu beth am edrych drwy’r oriel luniau yma i roi cynnig ar y rownd “Ble ydw i?

Rhowch gynnig arni – dyw e ddim yn rhwydd! Nodwch eich sylwadau isod ac fe gewch yr atebion mewn rhai diwrnodau.