Pa mor bwysig yw estyn llaw, rhannu, ac adrodd ein stori?

“Trowch eich sylw at y caredigrwydd sydd o’ch cwmpas yn y byd go iawn….”

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Dros y misoedd diwetha’ mae aelodau criwiau llywio gwefannau Bro360, a chyfranwyr sgyrsiau Prosiect Fory, wedi bod yn rhannu eu barn a’u gwerthoedd.

Mewn ymgais i droi eu meddyliau nhw’n werthoedd y gall pawb ym mhob bro eu dilyn, eu hefelychu, a’u cyfleu ar y 7 gwefan fro, dyma barhau i gyflwyno ‘maniffesto’ Bro360!

Roedd y syniadau cyntaf i ni eu cyflwyno yn amrywiol iawn – o drafod syniad gwallgo’ dros beint, i bwysigrwydd prynu’n lleol – gyda rhai’n fwy dwys na’i gilydd. Er hynny, mae’r cyfan yn dod at ei gilydd i ffurfio rhai o’r pethau sy’n bwysig er mwyn cynnal cymdeithas yn 2020.

Dyma gip ar ragor o enghreifftiau…

 

1. Estyn llaw

Ar drothwy ‘Dolig tra wahanol i’r arfer, mae’n hawdd anghofio prif werthoedd yr ŵyl.

Anwybyddwch holl gecru’r trydarfyd am eiliad, ac anwybyddwch gasineb y cyfrifon ffug sy’n treiddio trwy sgrîn wydr eich ffôn. Trowch eich sylw at y caredigrwydd sydd o’ch cwmpas yn y byd go iawn – lle mae ‘na ddigonedd o bobol go iawn yn estyn llaw i helpu’i gilydd.

Ers dechrau’r pandemig, mae banciau bwyd wedi bod yn bwysicach nag erioed, ac yn gwerthfawrogi unrhyw gefnogaeth.

A hithau’n dymor ewyllys da, penderfynodd disgyblion Ysgol Henry Richard eu bod nhw am fynd ati i helpu Banc Bwyd Llanbedr Pont Steffan a chasglu eitemau a nwyddau hanfodol er mwyn eu rhoi i’r Banc Bwyd.

“Dyma wir ystyr y Nadolig – cyd-dynnu, helpu eraill, a bod yn garedig.”

Pa mor bwysig yw estyn llaw, rhannu, ac adrodd ein stori?

“Trowch eich sylw at y caredigrwydd sydd o’ch cwmpas yn y byd go iawn….”

Draw yn Y Felinheli, Anwen Lynne Roberts sydd wedi bod wrthi’n ddiwyd yn creu cardiau i’w gwerthu er mwyn codi pres at Fanc Bwyd Arfon.

Wrth edrych o amgylch eich cymuned dwi’n siŵr y byddwch chithau, fel Anwen, yn gwirioni gyda haelioni pobol.

Galar, furlough, Banciau Bwyd a chardiau Nadolig

Osian Wyn Owen

Ymgyrch Cardiau Nadolig i godi arian i Fanc Bwyd Arfon.

 

2. Adrodd ein stori

Mae gan bawb ei stori. Felly beth am fynd ati i adrodd eich stori chi ar eich gwefan fro?

Yr wythnos hon mae Ysgol Gynradd Eglwys Llanllwni yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed, a pha ffordd well i ddathlu na rhannu ei hanes ar Clonc360?

Er pa mor rhyfedd fu 2020, nid dyma’r tro cyntaf i’r ysgol gau oherwydd pandemig – caewyd ei drysau rhwng Tachwedd 1918 a Ionawr 1919 yn sgil y Ffliw Sbaeneg.

Darllenwch weddill yr hanes yma:

Ysgol Llanllwni ym 1913..............

Hanes Ysgol Llanllwni sy’n 150 oed

Owain Davies

Yn ystod yr wythnos hon bydd disgyblion Ysgol  Llanllwni yn nodi canrif a hanner o fodolaeth yr ysgol. Carnif a hanner o addysg a mwy!

 

3. Rhannu

Hawdd yw diystyru pwysigrwydd rhannu, boed hynny’n rhannu rhywbeth yn llythrennol, rhannu gwybodaeth, neu rannu teimladau.

Mae teimladau a phoenau’n cael eu rhannu mewn modd cwbl onest yn nofel newydd Megan Angharad Hunter – Tu ôl i’r awyr.

Mae’r nofel yn dilyn Anest a Deian – dau sydd yn eu harddegau, ac yn dioddef â chyflyrau iechyd meddwl. Mae’r berthynas rhyngddynt yn annwyl, ac yn heriol, wrth i’r ddau ohonynt adrodd eu hanes fesul pwt.

Pwysleisia’r awdur bod “angen i ni siarad ag eraill am ein teimladau a sylweddoli nad oes raid i neb ddioddef ar eu pennau eu hunain.”

Yn ôl Megan, mae’n bwysig trafod iechyd meddwl yn onest trwy’r celfyddydau. Mae Tu ôl i’r awyr yn amlygu breuder ei chymeriadau yn ddigyfaddawd, ac yn amlygu gwerth rhannu’n teimladau…

Awdures ifanc o Benygroes yn cyhoeddi ei nofel gyntaf

Gwenllian Jones

“Y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae’n ysgytwol.” Dyma eiriau Manon Steffan Ros am nofel gyntaf yr awdures ifanc o Ddyffryn Nantlle, Megan Angharad Hunter. Mae tu ôl i’r awyr (Y Lolfa) yn nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei debyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen.  

 

Pa werthoedd sy’n bwysig i chi?

Rhowch wybod yn y sylwadau!

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Ar Lafar -Digwyddiad i oedolion sy’n dysgu Cymraeg

10:00, 20 Ebrill (Mynediad am ddim. (mae rhai gweithgareddau yn talwch beth allwch chi))

Eisteddfod Gadeiriol Y Ffor

12:00, 20 Ebrill (Prynhawn a hwyr: Oedolion £3.00 Plant 50c. Tocyn dydd £5.00)