Dros y misoedd diwetha’ mae aelodau criwiau llywio gwefannau Bro360, a chyfranwyr sgyrsiau Prosiect Fory, wedi bod yn rhannu eu barn a’u gwerthoedd.
Mewn ymgais i droi eu meddyliau nhw’n werthoedd y gall pawb ym mhob bro eu dilyn, a’u cyfleu ar y 7 gwefan fro, dyma barhau â chyflwyno ‘maniffesto’ Bro360!
Roedd y syniadau cyntaf i ni eu cyflwyno yn amrywiol, a rhai’n fwy ysgafn na’i gilydd, ac mae’r un peth yn wir gyda’r esiamplau hyn. Er hynny, mae’r cyfan yn cyfuno i ffurfio rhai o’r pethau sy’n bwysig er mwyn cynnal cymdeithas yn 2020.
Dyma gip ar ambell enghraifft…
1. Mynd i gopa’r mynydd
Efallai nad oedd ciwio i gyrraedd copa’r Wyddfa ar dop rhestr to-do yr un ohonom ni’n ystod misoedd yr haf, ond mae cerdded ein copaon yn un ffordd o deimlo ein bod ni’n perthyn i’r tir o dan ein traed. Nid oes unlle gwell i ymgyfarwyddo ag ardal (â chymryd ei bod yn ddiwrnod clir!) nag ar ben mynydd.
Dyna’n union fydd criw o Ddyffryn Nantlle yn ei wneud fory.
Dan arweiniad Swyddog Awyr Agored Yr Orsaf, Andy Collins, bydd y criw yn dringo llethrau Mynydd Mawr o bentref y Fron. Gan gadw at fesurau Covid-19, bydd y daith yn rhoi cyfle i bobol gymdeithasu wedi’r cyfnod o orfod aros adre.
Taith gerdded wedi’r cyfnod clo
2. Trafod syniad gwallgo’ dros beint
Wrth i dafarndai ailagor eu drysau heddiw wedi’r cyfnod clo byr, bydd posib trafod syniadau gwallgo’ dros beint unwaith yn rhagor.
Felly gan ddefnyddio’r canllawiau isod ar gyfer mwynhau peint a chadw’n saff (oddi ar Caernarfon360) – ewch ati i gynllunio’r dyfodol… I drafod yr antur neu’r ddrama nesa… Neu i godi cwestiwn i annog trafodaeth…
Sut i fwynhau peint a chadw yn saff?
3. Codi arian at elusen
A hithau’n fis Tachwedd mae nifer o bobol ar hyd a lled y wlad yn cymryd rhan yn her Tashwedd – mis o dyfu mwstash i godi arian at achosion da. Ac mae rhai mwstashis yn edrych yn well nag eraill! ;)
Bydd tîm cyntaf CPD Nantlle Vale yn cymryd rhan yn yr her, ac yn rhedeg 1,440 milltir yn ystod y mis. Yn hytrach na chodi arian, eu bwriad yw codi ymwybyddiaeth tuag at iechyd meddwl dynion gan fod 1 mewn 4 o ddynion yn wynebu problemau iechyd meddwl.
Dyma Daniel Bell, un o reolwyr y tîm cyntaf, yn esbonio mwy am yr her:
??Tashwedd= CPD Nantlle Vale?♂️
I’r gwrthwyneb, mae rhai o fyfyrwyr Pantycelyn wedi penderfynu siafio’u gwalltiau er mwyn codi arian tuag at elusen Ymchwil Canser Cymru.
Mae’r elusen yn bwysig iawn i un o’r criw gan iddo dderbyn dwy driniaeth ar gyfer lewcemia fel bachgen ifanc, a llwyddodd yr hogiau i gasglu cannoedd o bunnoedd.
Myfyrwyr Pantycelyn yn gwneud y gorau o’r cyfnod clo
Pa werthoedd sy’n bwysig i chi?
Rhowch wybod yn y sylwadau!