gan
Lowri Jones
Oes gen ti rywbeth bach i’w rannu am dy fro?
Gall pawb sydd wedi creu cyfri ar eu gwefan fro gyfrannu at y ffrwd yma o straeon cryno, ac mae’n syml:
- Mynd i’r wefan fro (ee BroAber360.cymru)
- Creu cyfri trwy bwyso’r botwm ‘Ymuno’ a nodi dy enw Facebook / Twitter / ebost
- Mynd i’r tab ‘Diweddaraf’ o’r hafan
- Pwyso’r botwm ‘Ychwanegu’
- Sgwennu pennawd dy stori gryno
- Sgwennu mwy yn y blwch, neu gopïo linc i bost Facebook, Instagram neu Twitter
- Pwyso’r botwm glas i gyhoeddi, neu i gyflwyno’r pwt i un o’r tîm golygyddol gael cyhoeddi
Mae ’na ffordd arall o ychwanegu at y ffrwd, sef trwy @io cyfri Twitter dy wefan fro, a’u bod nhw’n hoffi’r trydariad!
Bach o gyngor!
- Paid ag aros – os oes rhywbeth i’w rannu, rhanna fe nawr/rŵan!
- Ceisia osgoi rhoi emoji yn y pennawd – ni fydd yn ymddangos ar bob sgrîn
- Os oes ‘da ti FWY i’w ddweud, beth am greu stori i’r wefan, sy’n cynnwys lluniau neu fideos hefyd?
Enghreifftiau o straeon cryno
Beth am rannu pethau fel hyn?
- cyfarchiad i ddathlu pen-blwydd priodas neu enedigaeth
- diweddariadau traffig
- newyddion brys o’r fro
- posts Facebook neu Twitter difyr gan fudiadau a phobol leol
Sut mae rhannu post o Facebook?
I gael yr URL o’r post Facebook, dde clicia (y botwm Control ar mac) ar fanylion amser y post, agor y ddolen mewn tab newydd, a chopïo o’r fan honno. Ond cofiwch – rhaid i’r post fod wedi’i rannu’n ‘gyhoeddus’ yn y lle cynta.