Cyfle o hyd i roi Tregaron a’r fro ar y map yn 2020!

Gwahoddiad i bobol Tregaron a’r fro ymuno mewn sesiwn ddigidol nos Lun 4 Mai

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes awydd i gael lle ar y we i dynnu popeth sy’n dda am ardal Tregaron ynghyd?

‘Na chi un o’r cwestiynau y byddwn yn eu holi nos Lun 4 Mai, mewn sesiwn ddigidol gydag arweinwyr lleol.

Mae 6 gwefan straeon lleol wedi’u creu dan adain cynllun Bro360 a chwmni Golwg hyd yn hyn: pedair yn ardal Arfon a dau yng Ngheredigion, sef BroAber360 (gwefan fro gogledd Ceredigion, sy’n perthyn i drigolion o Dre’r Ddôl i Lanrhystud i Gwmystwyth) a Clonc360 (gwefan fro Llanbed a’r cylch).

A nawr, mae gan Dregaron a’r cylch gyfle i fod yn rhan o’r criw!

Gwneud gwahaniaeth i’r ardal leol

Er mwyn darganfod a oes awydd creu gwefan straeon lleol i’r fro, rydym yn gwahodd pawb sydd â diddordeb i ymuno yn y sgwrs trwy ap Zoom nos Lun 4 Mai. Bydd yn gyfle:

  • i glywed mwy am botensial gwefan fro i wneud gwahaniaeth i’r gymuned
  • i weld pa mor hawdd fydd hi i chi gyfrannu
  • i ffindio mas faint o fwrlwm sydd yn y fro a allai gael ei grynhoi mewn un man
  • i drafod pa gyfryngau digidol sydd ar gael, a sut i’w defnyddio i wneud daioni

Covid-19 a’r newid mewn cymdeithas

Mae cyfnod Covid-19 yn profi’n anodd i gymaint o bobol – o fusnesau bach i arweinwyr mudiadau. Ond er bod prysurdeb arferol ein cymunedau wedi lleihau ar un llaw, mae’r argyfwng wedi ennyn ymateb cadarnhaol ar y llaw arall.

Nod Bro360 yw gweithio gyda phobol Tregaron a’r cylch i helpu’r gymdeithas i addasu yn awr, ac wrth i ni wynebu ‘normal newydd’ dros y misoedd a’r blynyddoedd nesa.

Mae’r cyfnod yma wedi profi bod gan dechnoleg rôl gadarnhaol i’w chwarae, dim ond i’r bobol sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol fanteisio ar ei holl bosibiliadau a’i ddefnyddio i ategu gweithgarwch ‘go iawn’ yn ein neuaddau, ein festrïoedd a’n tafarndai.

O Ledrod i Landdewi, o Bont i Fwlchllan – ymunwch yn y sesiwn nos Lun am 8pm i ddarganfod sut gallwn ddefnyddio gwefan fro i gryfhau’r gymdeithas.

I roi gwybod eich bod am ddod ac i gael help i ddefnyddio Zoom, ebostiwch Dan – Ysgogydd Bro360 yng ngogledd Ceredigion.