Pan fyddwch chi’n meddwl am ‘wefan straeon lleol’, am beth fyddwch chi’n meddwl?
Erthyglau ysgrifenedig? Gyda llun neu ddau, efallai?
Wel, mae bellach yn chwe mis ers i 3 gwefan straeon lleol cynta Bro360 gael eu lansio. Ac fel y gwelwch chi wrth ambell un o’r enghreifftiau yma, mae’r potensial yn dipyn mwy amrywiol nag erthygl testun a llun yn unig…
Helpu i gynnal steddfod leol (ar-lein)
Fis Ebrill eleni, roedd Clonc360 yn gartref i Steddfod ddigidol cynta’r byd (ni’n credu!)
Roedd tîm Bro360 yn falch o helpu’r steddfod i arloesi er mwyn parhau i gynnal bwrlwm bro yn ystod cyfnod anodd y coronafeirws. Ar ben hynny, roedd yr enillwyr i’w gweld ar wefan fro Llanbed a’r cylch – Clonc360.
Eisteddfod leol ddigidol gynta’r byd!
Blog i rannu barn
Does dim rhaid gofyn am sylw gan gorfforaeth yng Nghaerdydd nac aros i’r cwmnïau teledu ymweld â dy fro er mwyn cael sylw. Mae’n lle i chi rannu eich barn chi am bethau sy’n bwysig yn lleol, fel gwnaeth Mari Hughes ar DyffrynNantlle360 pan sgwennodd flog am y profiad o fod yn ffermwr yn ystod y coronafeirws. Ac mae ei neges yn un bwysig…
“Cofiwch am y rhai sydd wedi cadw’r wlad i fynd” ar ôl yr argyfwng yma
Llif o gynnwys byw o ddigwyddiad lleol pwysig
Ym mis Chwefror daeth hi’n adeg bwrlwm Wythnos Ddramâu CFfI Ceredigion, un o uchafbwyntiau cefen gwlad y sir.
Bu aelodau bron pob clwb oedd yn cystadlu yn creu fideos, cyfweliadau sain a lluniau i’w cynnwys ar flog byw oedd yn cael ei guradu gan yr aelodau, ac yn cael ei lwyfannu ar BroAber360 a Clonc360. Roedd hi’n gyffrous dilyn y canlyniadau’n fyw, ac yn ddefnyddiol cael cip yn ôl ar brysurdeb yr wythnos.
BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion
Y gorau o’r clybiau chwaraeon lleol
Os oes un peth sy’n crynhoi teimlad o berthyn a dod â phobl ynghyd yn lleol, ein clybiau chwaraeon yw hynny.
Mae Now Jones yn un o’r bobol sydd wedi dechrau rhannu fideos uchafbwyntiau Clwb Rygbi Bethesda. Mae’n ffordd wych o gael blas ar y gêm ac annog mwy o gefnogwyr i fynd lawr i’r maes wythnos nesa (os yw’r tîm yn chwarae’n dda!)
Bethesda 20 – Dinbych 22
Podlediad i rannu newyddion positif
Mae’n amlwg yn gyfnod ansicr ac ofnus ar y funud, ond allan o’r tywyllwch mae cymdeithas wedi camu i’r adwy trwy greu cynlluniau cymorth i helpu’r bobol yn ein cymunedau sy’n llai ffodus yn y cyfnod hwn.
Roedd y podlediad yma gan ohebydd bro Golwg360 yn cynnwys straeon pobol ar lawr gwlad, ac yn diolch amdanyn nhw a’u gwaith amhrisiadwy.
Cefen gwlad ar waith – podlediad Bwletin Bro
Fideos spŵff sy’n gwneud i ni chwerthin!
Mae criw ifanc o Geredigion wedi bod yn creu fideos sy’n gwneud hwyl am ein pennau ni’n hunain yn y cyfnod od yma. Mae’r cyfan yn deillio o’u syniadau nhw fel criw. Dyma un ohonyn nhw. Mae’n siŵr eich bod chi’n nabod rhywun fel Gwenith eich cymuned chi!
Gwrandwch ar Gwenith (pillar of the community)
Dathlu dylanwad pobol y fro
Un gwahaniaeth y gallwn ddefnyddio gwefan fro i’w wneud yw rhoi mwy o sylw i straeon pobol ar lawr gwlad. Pobol na fyddai fel rheol yn cael sylw cenedlaethol, ond sy’n rhan annatod o wead eu cymdeithas. Un enghraifft yw #pobolbro ar Instagram. Ac un arall yw’r deyrnged yma gan Lyn Ebenezer i’w ffrind, Lloyd ‘Lucas’, ar BroAber360.
Cofio Dada
Pa un yw eich hoff stori chi hyd yn hyn? Rhowch wbod yn y sylwadau!