O ardal BroAber:
Hergest (Elgan Phylip) ar ben y poster.
Ar wahân i’r ‘enwogion’ eraill:
Côr Cerdd Dant Aelwyd Caerdydd dan arweiniad Nan Elis (ar waelod y poster).
Eiry Jones, Dole 3ydd o’r chwith ail res.
Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!
Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.
Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!
Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.
Mae Casgliad y Werin wedi bod yn twrio trwy’r archif ar gyfer #AtgofGen hefyd.
Dyma Gôr Genethod Llanberis yn Eisteddfod 1978. Oes rhywun yn cofio’r lleoliad?
Ewch ati i chwilio am hen luniau o ymweliadau'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru â'ch bro chi i lenwi'r we gydag #AtgofGen!…
Posted by Casgliad y Werin Cymru on Friday, 31 July 2020
Mae Enfys Medi yn dal i canu cytgan un o ganeuon Pasiant y Plant gyda Digion y Dolffin!
#atgofgen Steddfod Aber 92 – cymryd rhan yn Pasiant y Plant gyda Digion y Dolffin a joio'r profiad! Dwi dal yn gallu…
Posted by Enfys Medi on Wednesday, 5 August 2020
Diolch Enfys. Os hoffech chi gyfrannu – gwnewch fel wnaeth Enfys a rhannu pwt o atgof neu lun ar gyfryngau cymdeithasol, a chofio’r hashnod #AtgofGen!
Diolch Penri Williams am yr atgofion o Gasnewydd!
Heb weld atgof o ymweliad yr ŵyl â dy fro di?
Cyfranna!
Postia hen luniau neu atgofion ar Facebook neu Twitter gyda’r hashnod #AtgofGen!
Y cynta o bedwar stori gan William Howells ar BroAber360 yn cofio nôl i ymweliadau’r ŵyl genedlaethol a’r dref ger y lli.
Lluniau arbennig o 1916 ac 1952, ac ambell wyneb cyfarwydd yn y lluniau o’r torfeydd yng Ngŵyl Gyhoeddi 1991.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 1/4 #AtgofGen
Her dros ginio!
Allwch chi enwi’r bobol yma o boster Eisteddfod Aberteifi 1976?
Pwyswch ‘Ymuno’ ar dop y wefan hon, a gadewch eich sylwadau isod!
#AtgofGen @Bro__360 @BroAber_360
Allwch chi enwi rhai o'r rhain?
Oeddech chi yno?
10.30 Pafiliwn 6 Awst 1976 pic.twitter.com/l4J6ABAUof
— Hanes Aberteifi (@HanesAberteifi) August 3, 2020
Twynog Davies sy’n cofio cyd-arwain Cymanfa’r Eisteddfod yn ’84 gyda Delyth Hopkins Evans.
“Roedd yn brofiad enfawr i mi yn ystod y Gymanfa i gael arwain Côr yr Eisteddfod yn canu clasur Emrys Jones Morte Christe. Delyth gafodd y fraint o arwain emyn dôn fuddugol Llanbed. Cofiaf yn dda hefyd arwain un pennill o waith Dafydd Jones o Gaio “O Arglwydd galw eto, Fyrddiynau ar dy ôl” ac yntau wedi byw yn hen gartref fy mam ar ffarm yr Hafod Llanwrda.”
Mwy gan Twynog ar Clonc360:
#AtgofGen Cymanfa Ganu Eisteddfod Genedlaethol 1984
“bu’n rhaid gohirio perfformiad Ail Symudiad yn y babell ieuenctid sef Bedlam oherwydd bod rhan o’r eisteddfa wedi dymchwel. A oedd yr hen Syr Herbert Lloyd wedi melltithio’r lle tybed? Diolch byth fod Emyr Jones y Gof a’i fab Kevin o Lanbed ar alw ac fe atgyweiriwyd y gwendid yn fframwaith y babell a llwyddwyd i adfer rhaglen y dydd ymhen dwy awr.”
Atgofion doniol a difyr y Dylan Lewis 12 oed o Eisteddfod Llanbed 84 ?
#AtgofGen Y Babell Ieuenctid yn anniogel a diwrnod y Bandiau Pres yn Llanbed!
Pwy sy’n cofio Bedlam?! (neu falle mai *peidio* cofio’r nosweithiau yma ydych chi, os oeddech chi wedi joio gormod!
#AtgofGen @RhiannonTanlan a phabell #Bedlam yn Eisteddfod Genedlaethol #LlanbedrPontSteffan a’r fro #Cofio1984. @Bro__360 pic.twitter.com/BSMEc8v53c
— Craffwr (@Craffwr) July 25, 2020
Oes gen ti atgof o pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i dy filltir sgwâr?
Does dim ots ble na phryd – oes ’na atgof o Steddfodau Meifod yn 2016 neu 2003?
Beth am Steddfod Eryri 2005 o’r Faenol?
Dyma’ch cyfle i gyfrannu pwt o atgof neu luniau. Defnyddia’r hashnod #AtgofGen ar Twitter neu Facebook, i fod yn rhan o’r hwyl!