#AtgofGen: cofio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’ch bro

Ffrwd fawr fyw o’ch atgofion CHI!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!

Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.

Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!

Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.

11:40

Pwy sy’n cofio Bedlam?! (neu falle mai *peidio* cofio’r nosweithiau yma ydych chi, os oeddech chi wedi joio gormod!

11:19

Oes gen ti atgof o pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i dy filltir sgwâr?

Does dim ots ble na phryd – oes ’na atgof o Steddfodau Meifod yn 2016 neu 2003?

Beth am Steddfod Eryri 2005 o’r Faenol?

Dyma’ch cyfle i gyfrannu pwt o atgof neu luniau. Defnyddia’r hashnod #AtgofGen ar Twitter neu Facebook, i fod yn rhan o’r hwyl!

11:15

Nôl â ni i 1952.

Mae yn y ffilm yma olygfeydd diddorol o strydoedd Aberystwyth, o’r Prom yn orlawn, o dripiau cwch o Draeth y Gogledd, ac wrth reswm, llawer o luniau byw  o enwogion Cymreig y cyfnod ar Faes yr Eisteddfod.

Diolch Iestyn Hughes am rannu ffilm yr Archif Sgrîn a Sain ar dy wefan fro (BroAber360)

Cofio Eisteddfod 1952

Iestyn Hughes

Cip yn ôl – Eisteddfod 1952 ar ffilm

 

11:12

Pwy sy’n cofio pan mai siop yn y dre oedd swyddfa’r Eisteddfod?

A dim ond yn 1992 oedd hynny! Diolch i Heather Williams am y atgof o Eisteddfod Aberystwyth

11:09

Diolch i Helen Greenwood am dyrchu trwy hen luniau i ddod i hyd i’r rhain – cofnod o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’u bro yng Nglynebwy.

11:01

Busnes sychedig oedd steddfota pan ddaeth yr ŵyl i Lanbed yn ’84.

Pam? Wel, doedd dim hawl yfed ar y maes bryd hynny. Ond roedd rhai wedi bod yn graff iawn gyda’r rheol yma… ;)

Mwy ar wefan Clonc360:

#AtgofGen Busnes sychedig oedd ‘steddfota ym 1984!

Dylan Lewis

Ble oedd mynd am beint adeg Eisteddfod Genedlaethol Llanbed gyda’r rheol dim alcohol ar y maes?