Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!
Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.
Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!
Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.
Mwy o bobol yn cofio’r siop gafodd ei defnyddio fel swyddfa’r Eisteddfod
'Rwy'n cofio yn iawn. 1992 war mein erstes #EisteddfodGenedlaethol F'Eisteddfod cyntaf i yn Aber yn y nawdegau. Ein Jahr später sprach ich #Walisisch und fuhr immer wieder zum #Eisteddfod. Dieses Jahr geht es leider nicht. https://t.co/FLGGhQcNWA
— FDM Hildesheim homeoffice Research Data Management (@fdmhildesheim) August 1, 2020
Pwt gan Bro360…
Oes gan eich ardal chi wefan fro?
Os ydych chi’n byw yn Arfon neu ran helaeth o Geredigion, yr ateb yw “oes”!
BroAber360 (gogledd Ceredigion) | BroWyddfa360 | Caernarfon360 | Caron360 (ardal Tregaron) | Clonc360 (ardal Llanbed) | DyffrynNantlle360 | Ogwen360
Eich gwefannau chi, y bobol leol, ydyn nhw.
Gallwch gyfrannu atgof o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol eich bro, fel ry’n ni’n ei gasglu heddiw, neu gyfrannu stori, oriel luniau, fideo neu bodlediad am UNRHYW BETH DAN HAUL!
Sut?
- Pwyso Ymuno neu Mewngofnodi
- Ar ôl cadarnhau eich ebost, gwelwch y botwm ‘Creu‘ ar dop y sgrîn
- Dewiswch ai fideo, oriel, trac sain neu stori arferol rydych am ei chreu
- Ar ôl sgwennu pennawd a phwt a llwytho llun neu fideo, cyflwynwch y stori
- Bydd eich tîm golygu lleol yn ei chyhoeddi whap!
Yn 1992, Cwmni Theatr Arad Goch oedd yn gyfrifol am gynhyrchu drama fuddugol yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Roedd llawer mwy o fri a sylw (ac arian cynhyrchu) i’r Fedal Ddrama bryd hynny”
Mwy ar BroAber360 ?
Eisteddfod 1992 – Atgofion Cwmni Theatr Arad Goch
Heb weld atgof o ymweliad yr ŵyl â dy fro di?
Cyfranna!
Postia hen luniau neu atgofion ar Facebook neu Twitter gyda’r hashnod #AtgofGen cyn 3 heddiw!
Sioe gerdd TicToc, pabell lên ryfedd yr olwg (i gymharu â heddiw!), brodorion bro Aber gafodd eu hurddo i’r orsedd…
Dyna roi o’r lluniau o ddydd Lliun a Mawrth Eisteddfod Aberystwyth ’92 gan William Howells
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 2/4 #AtgofGen
Dyma luniau Casgliad y werin mewn un man
Dyma ein casgliad ni o #AtgofGen! Porwch drwy ein casgliad o gystadleuwyr a stondinwyr, beirdd a mascots, seremonïau a…
Posted by Casgliad y Werin Cymru on Sunday, 2 August 2020
Llun unigryw o’r Archdderwydd W J Gruffudd a’i gopi o rifyn Sadwrn olaf Clonc – cafodd rhifynnau o’r papur bro lleol eu cyhoeddi’n arbennig yn ystod wythnos Eisteddfod ’84 gan y criw lleol
Diolch i @tref65 am lun unigryw o’r Archdderwydd W J Gruffudd a’i gopi o rifyn Sadwrn olaf #PapurBro Clonc ar Faes Eisteddfod #LlanbedrPont Steffan a’r fro 1984 yng nghwmni Haydn Richards ac Arthur Roderick. #AtgofGen #EisteddfodAmGen @Bro__360 #Cofio84 pic.twitter.com/txyECuJ29Q
— Papur Bro Clonc (@Cloncyn) August 2, 2020
Diolch Ann Barlow a Gwen Màiri am y lluniau a’r atgofion yma
Tadcu (yr un sy’n gwisgo du), Sam Jones, Llanllwni. @eisteddfod #AtgofGen Llambed 1984 https://t.co/wKiOTzBOjk
— Gwen Màiri (@GwenMairi) August 1, 2020
Cofio ymweliadau o dramor yn 92
Llydaw a Llydawyr yn Eisteddfod #Aberystwyth 1992 #AtgofGen #steddfodamGen @BroAber_360 @Bro__360 @eisteddfod pic.twitter.com/MKlQcf55yu
— Ewrop – Cymru/Wales (@EwropiGymru) August 1, 2020
Profiad bythgofiadwy i Trefina Jones oedd cael ei hurddo i’r orsedd ar ymweliad yr ŵyl â stepen ei drws.
Ac mae’n cofio manylion y criw lleol fu’n smwddio!
“Roedd Mam a nifer o wragedd yr ardal gan gynnwys llawer o’m Antis o ran enw, os nad o ran perthynas, sef Anti Ann Bronwydd, Anti Eryl Gerlan ac Anti Beti’r Mans wedi bod yn rhan o’r fintai o wragedd lleol a fu’n smwddio gwisgoedd yr orsedd- gorchwyl go anodd!”
Mwy ar Clonc360 ?
#AtgofGen Urddo i’r Orsedd yn Llanbed
Diolch Trefina. Oes gennych chi atgof o pan ddaeth y Steddfod Genedlaethol i’ch bro?
Rhannwch gyda’r hashnod #AtgofGen heddiw, cyn 3pm!