#AtgofGen: cofio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’ch bro

Ffrwd fawr fyw o’ch atgofion CHI!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!

Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.

Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!

Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.

12:09

Heb weld atgof o ymweliad yr ŵyl â dy fro di?

Cyfranna!

Postia hen luniau neu atgofion ar Facebook neu Twitter gyda’r hashnod #AtgofGen!

12:08

Y cynta o bedwar stori gan William Howells ar BroAber360 yn cofio nôl i ymweliadau’r ŵyl genedlaethol a’r dref ger y lli.

Lluniau arbennig o 1916 ac 1952, ac ambell wyneb cyfarwydd yn y lluniau o’r torfeydd yng Ngŵyl Gyhoeddi 1991.

 

12:03

Her dros ginio!

Allwch chi enwi’r bobol yma o boster Eisteddfod Aberteifi 1976?

Pwyswch ‘Ymuno’ ar dop y wefan hon, a gadewch eich sylwadau isod!

BroAber360
BroAber360

O ardal BroAber:
Hergest (Elgan Phylip) ar ben y poster.
Ar wahân i’r ‘enwogion’ eraill:
Côr Cerdd Dant Aelwyd Caerdydd dan arweiniad Nan Elis (ar waelod y poster).
Eiry Jones, Dole 3ydd o’r chwith ail res.

Mae’r sylwadau wedi cau.

12:01

Twynog Davies sy’n cofio cyd-arwain Cymanfa’r Eisteddfod yn ’84 gyda Delyth Hopkins Evans.

“Roedd yn brofiad enfawr i mi yn ystod y Gymanfa i gael arwain Côr yr Eisteddfod yn canu clasur Emrys Jones Morte Christe. Delyth gafodd y fraint o arwain emyn dôn fuddugol Llanbed.  Cofiaf yn dda hefyd arwain un pennill o waith Dafydd Jones o Gaio “O Arglwydd galw eto, Fyrddiynau ar dy ôl” ac yntau wedi byw yn hen gartref fy mam ar ffarm yr Hafod Llanwrda.”

Mwy gan Twynog ar Clonc360:

#AtgofGen Cymanfa Ganu Eisteddfod Genedlaethol 1984

Twynog Davies

Ailddarlledir y Gymanfa ar Ganiadaeth y Cysegr BBC Radio Cymru wythnos nesaf.

 

11:44

“bu’n rhaid gohirio perfformiad Ail Symudiad yn y babell ieuenctid sef Bedlam oherwydd bod rhan o’r eisteddfa wedi dymchwel. A oedd yr hen Syr Herbert Lloyd wedi melltithio’r lle tybed? Diolch byth fod Emyr Jones y Gof a’i fab Kevin o Lanbed ar alw ac fe atgyweiriwyd y gwendid yn fframwaith y babell a llwyddwyd i adfer rhaglen y dydd ymhen dwy awr.”

Atgofion doniol a difyr y Dylan Lewis 12 oed o Eisteddfod Llanbed 84 ?

#AtgofGen Y Babell Ieuenctid yn anniogel a diwrnod y Bandiau Pres yn Llanbed!

Dylan Lewis

Uchafbwyntiau diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

 

11:40

Pwy sy’n cofio Bedlam?! (neu falle mai *peidio* cofio’r nosweithiau yma ydych chi, os oeddech chi wedi joio gormod!

11:19

Oes gen ti atgof o pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i dy filltir sgwâr?

Does dim ots ble na phryd – oes ’na atgof o Steddfodau Meifod yn 2016 neu 2003?

Beth am Steddfod Eryri 2005 o’r Faenol?

Dyma’ch cyfle i gyfrannu pwt o atgof neu luniau. Defnyddia’r hashnod #AtgofGen ar Twitter neu Facebook, i fod yn rhan o’r hwyl!

11:15

Nôl â ni i 1952.

Mae yn y ffilm yma olygfeydd diddorol o strydoedd Aberystwyth, o’r Prom yn orlawn, o dripiau cwch o Draeth y Gogledd, ac wrth reswm, llawer o luniau byw  o enwogion Cymreig y cyfnod ar Faes yr Eisteddfod.

Diolch Iestyn Hughes am rannu ffilm yr Archif Sgrîn a Sain ar dy wefan fro (BroAber360)

Cofio Eisteddfod 1952

Iestyn Hughes

Cip yn ôl – Eisteddfod 1952 ar ffilm

 

11:12

Pwy sy’n cofio pan mai siop yn y dre oedd swyddfa’r Eisteddfod?

A dim ond yn 1992 oedd hynny! Diolch i Heather Williams am y atgof o Eisteddfod Aberystwyth

11:09

Diolch i Helen Greenwood am dyrchu trwy hen luniau i ddod i hyd i’r rhain – cofnod o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’u bro yng Nglynebwy.