Arbrofi ar yr ystlys

? Lowri fuodd yn arbrofi i weld yw hi’n bosib creu fideo uchafbwyntiau o gêm rygbi leol ar ei ffôn.

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Lowri Jones

Mae tîm pêl-droed Cymru yn mynd i’r Ewros ‘leni eto, ac mae tîm rygbi cenedlaethol y dynion yn edrych mlân i ddal gafael ar y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond y tu ôl i lwyddiant ein prif dimau cenedlaethol, mae ’na glybiau chwaraeon ar lawr gwlad yn cynnal gemau cystadleuol, a thrwy hynny yn cynnal ein cymunedau.

Yma ar y meysydd lleol y mae pob Gareth Davies a Kieffer Moore yn meithrin eu talent. Ac yma ar gaeau chwarae’r pentre mae cymunedau’n dod ynghyd bob wythnos, i chwarae gyda’u ffrindiau ac i gefnogi a rhoi’r byd yn ei le ar yr ystlys.

Mae’r allwedd yn ein poced

Gallwn ni ddim â disgwyl i’r cyfryngau canolog roi sylw i bob gêm leol – ac yn wir, ddylsen ni ddim.

Ond MAE pobol ishe gwybod y sgoriau diweddara am eu clwb lleol, ac mae ’da ni gyfle i roi llwyfan i gemau chwaraeon lleol – a champau amrywiol – trwy’r cyfryngau rhwydd a rhad sydd yn ein poced.

Yn wir, mae Begw Elain o Ddyffryn Nantlle eisoes wedi bod yn cyhoeddi fideos uchafbwyntiau o gemau CPD Nantlle Vale ar DyffrynNantlle360, ac yn cael tipyn o hwyl arni! Dyma ei fideo ddiweddara:

Nantlle Vale vs Llandyrnog

Begw Elain

Dyma fidio wythnosol CPD Nantlle Vale.

 

Ennill wrth arbrofi

Felly, es i lawr i Barc Drefach ddydd Sadwrn, i weld a oedd hi’n bosib creu fideo uchafbwyntiau o gêm Aberaeron yn erbyn Cwins Doc Penfro, gan ddefnyddio dim byd mwy na fy ffôn poced.

Ro’n i’n falch mod i wedi mynd! Nid yn unig achos bod Aberaeron wedi rhoi crosfa i’r gwrthwynebwyr a chael pum pwynt mas o’r gêm(!) ond hefyd am fod y fideo wedi troi mas yn ddigon deche. Mae’r diolchiadau a’r sylwadau cadarnhaol ges i gan y chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn ddigon o wobr (mae’n help bo’ nhw wedi whare’n dda!)

Ac roedd fideo’n rhoi’r cyfle i fi greu cynnwys hollol Gymraeg sy’n ddigon hygyrch i bawb.

Roedd ’na heriau wrth gwrs – mae ceisiau cyflym a rhyng-gipiadau’n hunlle i’r person sy’ ishe dal pob cais! A dyw zoom fy nghamra i ddim cweit cystal ag yr hoffen i iddo fe fod. Ond ar y cyfan, roedd hi’n sicr yn werth yr ymdrech o saethu digon o glips i greu ffilm fer 3 munud.

Felly co hi – ffilm o’r ystlys a gafodd ei chreu ar fy ffôn Huawei, a’i golygu ar ap YouCut (ap rhad ac am ddim addas i Android).

Os oes ’da chi unrhyw gyngor ar sut ydych chi’n mynd ati i greu fideos o’ch clwb chwaraeon lleol, rhowch wbod yn y sylwadau.

Gêm dda gan Aberaeron Rfc heddi.Os golloch chi fe ??Gêm nesa gatre nos Wener hyn – darbi yn erbyn Tregaron!Ywain Ap Dylan Llais Aeron Aberaeron RFC

Posted by Lowri Fron on Saturday, 25 January 2020

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.