Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri

Ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

Pnawn da o Rali CFfI Eryri!

Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.

Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

13:21

Beirniaid yn brysur yn… wel, beirniadu!  #RaliSbyty19

13:20

Hmm… gwahanol!

Dyma un o gystadlaethau mwya hwyliog heddiw – tasg i aelodau hŷn neu arweinyddion y clybiau adeiladu twr uchel a chadarn, a fydd yn gallu dal wy ar ei ben am funud. Pob lwc gyda hynny! ?

   

13:15

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Gosod blodau (dan 16 oed). Thema: Chwedlau

1af: Modlen Alun, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Cari Taylor, CFfI Rowen

3ydd: Elliw Jones, CFfI Rowen

4ydd: Cadi Wyn Jones, CFfI Llanrwst

Beirniad: Mallt Jones

13:14

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Crefft (dan 21 oed) – creu pyped unrhyw gyfrwng, addas i blant

1af: Nel Grug, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Anest Jones, CFfI Caernarfon

3ydd: Nia Williams, CFfI Rowen

4ydd: Ffion Williams, CFfI Rowen

Beirniad: Elen Ebrill Jones

 

13:06

? #crysclwb rhif 2

Dyma Moli Jackson, cadeirydd CFfI Dyffryn Ogwen, yn ei chrys.

Pob lwc yn y cystadlu!

12:58

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Arlunio darlun

1af: Gwen Thomas, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Gwen Thomas, CFfI Ysbyty Ifan

3ydd: Modlen Alun, CffI Ysbyty Ifan

4ydd: Elliw Jones Evans, CFfI Godre’r Eifl

12:37

12:31

? Cneifio! ?

Y merched a’r bechgyn yn dechrau diwrnod prysur o gneifio! tyrd draw i sied 2 yn y Rali i gael golwg

https://youtu.be/O6ItmfBdF7U

 

12:23

#crysclwb rhif 1

Dyma Elis yn modelu crys CFfI Caernarfon yn y Rali. Pa glybiau eraill sy yn y sir?

Tynnwch lun o’ch crys chi a chofiwch ei rannu gyda’r hashnod #Bro360

12:18

? Ma hwyl i’w gael gyda’r hwiangerddi! ?

Dyma Glwb Ysbyty Ifan (y clwb cartre heddiw) yn barod i fynd yn y gystadleuaeth Adloniant i Blant.

Ond pa hwiangerdd sy gennyn nhw? ?