Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri

Ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

Pnawn da o Rali CFfI Eryri!

Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.

Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

15:42

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Coginio (dan 26) – triawd o fwyd stryd

1af: CFfI Caernarfon

2il: CFfI Ysbyty Ifan

3ydd: CFfI Y Rhiw

4ydd: CFfI Dyffryn Ogwen

Beirniad: Rita Jones ac Eirwen Roberts

Pob hwyl i Lois Parry a Lowri Griffith yn y Sioe Fawr!

15:38

Sut mae aelodau’r CFfI yn adnabod ei gilydd?

Wel, gydag enwau ffermydd, wrth gwrs!

#crysauclwb

15:05

Eleri – Trefnydd CFfI Eryri – yn joio fersiwn merched CFfI Ysbyty Ifan o gân ‘Eleri’ (y gwreiddiol gan Betsan Haf Evans ar Cân i Gymru!)

15:00

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Arddangosfa Adloniant i Blant

1af: CFfI Ysbyty Ifan

2il: CFfI Llanrwst

3ydd: CFfI Dyffryn Nantlle

4ydd: CFfI Caernarfon

Beirniad: Elin ac Emyr Roberts

14:53

? Aelod ifanc iawn mewn #crysclwb…

Mae Ilan yn edrych ymlaen yn barod i ymaelodi â Chlwb Caernarfon!

14:37

Beca Glyn o CFfI Ysbyty Ifan – y clwb sy’n cynnal Rali Eryri eleni – sy’n esbonio’r rhyddhad bod pawb yn mwynhau yma ar ôl yr holl waith paratoi a chyd-dynnu.

 

14:33

? Rhawio? Be di rhawio?! ?

Osian Evans o Glwb Caernarfon sy’n esbonio…

14:22

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Tro ar hwiangerdd

1af: CFfI Ysbyty Ifan

2ail: CFfI Llanrwst

3ydd: CFfI Llangybi

4ydd: CFfI Dyffryn Nantlle

Beirniad: Sian Edwards

14:20

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Creu tŵr (Aelod Hŷn ac Arweinyddion)

1af: CFfI Ysbyty Ifan

2ail: CFfI Llangybi

3ydd: CFfI Caernarfon

4ydd (cydradd): CFfI Dyffryn Nantlle a CFfI Rowen

14:19

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Gwaith coed (dan 26 oed) – creu ffynnon gofuned

1af: CFfI Y Rhiw

2ail: CFfI Llangybi

3ydd: CFfI Ysbyty Ifan

4ydd: CFfI Llanrwst

Beirniad: Glyn Jones