Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri

Ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

Pnawn da o Rali CFfI Eryri!

Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.

Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

14:19

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Gwaith coed (dan 26 oed) – creu ffynnon gofuned

1af: CFfI Y Rhiw

2ail: CFfI Llangybi

3ydd: CFfI Ysbyty Ifan

4ydd: CFfI Llanrwst

Beirniad: Glyn Jones

13:58

Dod i adnabod yr aelodau…

Dyma Sioned a Guto o Glwb Caernarfon yn crynhoi’r cystadlu hyd yn hyn, ac yn dyfalu pwy fydd yn ennill y Rali!

Ond fyddwn ni ddim yn gwybod yn iawn pwy eiff â hi tan ddiwedd y dydd – felly arhoswch gyda ni ar flog byw Bro360!

13:54

#crysclwb rhif 3!

A dyma Guto o Glwb Dyffryn Nantlle. Sgen ti lun o grys dy glwb? Anfona hi ato ni ar #Bro360 ar unrhyw gyfrwng!

13:51

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Cneifio (Dan 26 oed)

1af: Dylan Jones, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Caron Evans, CFfI Ysbyty Ifan

3ydd: Meredydd Pyrs, CFfI Ysbyty Ifan

4ydd:Huw Hughes, CFfI Llangybi

 

Cystadleuaeth: Cneifio (Dan 21 oed)

1af: Llyr Jones, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Emlyn Jones, CFfI Llanrwst

3ydd: Jac Ellis, CFfI Ysbyty Ifan

4ydd:Tomos Wyn Jones, CFfI Dyffryn Nantlle

 

Pob hwyl i Llyr a Dylan Jones yn y Sioe Fawr!

13:46

? Taflu Sach Wellt ?

Rhai o bobl cryf Eryri yn herio ei gilydd yn y cae!

13:30

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Gêm yr Oesoedd

1af: Glesni a Megan, CFfI Dyffryn Ogwen

2il: Ynyr ac Efa, CFfI Ysbyty Ifan

3ydd: Elan a Poppy, CFfI Llanrwst

4ydd: Deio ac Anna, CFfI Llangybi

Beirniad: Dylan a Nest Davies

13:25

Cefnogwyr Rali Eryri yn mwynhau un o’r cystadlaethau llwyfan – y sioe ffasiwn.

Yr her i’r aelodau oedd addasu dau wisg ar gyfer dawns tylwyth teg.

 

13:21

Beirniaid yn brysur yn… wel, beirniadu!  #RaliSbyty19

13:20

Hmm… gwahanol!

Dyma un o gystadlaethau mwya hwyliog heddiw – tasg i aelodau hŷn neu arweinyddion y clybiau adeiladu twr uchel a chadarn, a fydd yn gallu dal wy ar ei ben am funud. Pob lwc gyda hynny! ?

   

13:15

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Gosod blodau (dan 16 oed). Thema: Chwedlau

1af: Modlen Alun, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Cari Taylor, CFfI Rowen

3ydd: Elliw Jones, CFfI Rowen

4ydd: Cadi Wyn Jones, CFfI Llanrwst

Beirniad: Mallt Jones