Y peth gorau ddigwyddodd ddydd Sadwrn

Mae aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion newydd gyd-greu blog byw o’u steddfod sir…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ddydd Sadwrn diwetha, buodd llwyth o aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn creu fideos, traciau sain a lluniau er mwyn cyd-greu blog byw o Steddfod y Clybiau.

Un o’r pethau gorau am y blog, oedd yn cael ei gyhoeddi ar wefan newydd gogledd Ceredigion (BroAber360.cymru), oedd ei fod wedi galluogi pobol adre i ddilyn beth oedd mlaen yn un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr cefn gwlad y sir.

Peth arall da am y blog oedd bod yr aelodau, cefnogwyr a rhieni a oedd YNO ar y dydd yn gallu dala lan da phopeth y diwrnod canlynol, a gweld y pethau roedden nhw wedi’i golli wrth ddod dros eu blinder!

Ond y peth gorau am y cwbwl oedd mai’r aelodau a grëodd y cyfan.

Os y’n ni am lwyddo i ddefnyddio’r cyfryngau rhad a rhwydd sydd ar gael i ni er mwyn gwneud gwahaniaeth i’n cymdeithas, mae angen i ni gydio yn yr awenau a mynd amdani. Ein jobyn ni, fel aelodau mudiadau a chlybiau er enghraifft, yw rhannu ein gwaith da a’n llwyddiannau ein hunain yn eang.

Mae Bro360 yn falch o allu cydweithio â CFfI Ceredigion i roi platfform ac ysgogiad ar gyfer y creu hynny.

Felly beth nesa? Oes angen rhoi mwy o sylw i weithgarwch eich cymdeithas chi?

Cysylltwch, a gallwn ni eich helpu i fanteisio ar y cyfryngau a mynd amdani.

Dyma’r blog:

CFfI Ceredigion – YN FYW o’r Steddfod

Lowri Jones

Aelodau CFfI Ceredigion sy’n dod â holl hwyl #steddfodcardi yn fyw o Bafiliwn Bont.