Disgwyl iddyn nhw ddarlledu…

Yma byddwn ni, os newn ni ddisgwyl i rywun arall wneud rhywbeth. Felly beth yw’r ateb?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Yma byddwn ni, os newn ni ddisgwyl i rywun arall wneud rhywbeth.

Daeth hi’n amlwg heddiw na fydd BBC Radio Cymru yn darlledu’n fyw o Eisteddfod CFfI Cymru eleni.

Ar ôl blynyddoedd o raglenni bywiog (a phoblogaidd tu hwnt) o un o brif ddigwyddiadau cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc, mae’r gorfforaeth wedi penderfynu newid y drefn a darlledu pigion, yn hytrach na rhaglen fyw, o’r ŵyl deithiol sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam ddiwedd Tachwedd.

Heb os, mae hyn yn siom. Mae’n siom i CFfI Cymru, sy’n awyddus i ddefnyddio’r platfform i godi proffil y mudiad. Mae’n siom i’r clybiau ar lawr gwlad, sydd ishe dathlu a dangos eu talentau i’r genedl. Ac mae’n siom i wrandawyr selog a chefnogwyr y mudiad, sy’n edrych ymlaen bob blwyddyn at groesawu’r wledd o adloniant i’w cegin ffrynt (ac at fod yn feirniaid – answyddogol, wrth gwrs)!

Dyna’r peryg gyda dibynnu ar gyfryngau canolog.

Corfforaeth y BBC sy’n gyfrifol am benderfynu sut ddarpariaeth y mae hi’n meddwl sydd orau ar gyfer ein digwyddiadau cenedlaethol. Ac er cystal y ddarpariaeth ar hyd y blynyddoedd, mae’r penderfyniadau mas o’n dwylo ni fel cynulleidfa, cefnogwyr, ac aelodau sy’n creu’r adloniant.

Mae ‘na ateb arall. Heddiw, os oes ‘da ni ffôn yn ein poced a chysylltiad gweddol â’r we (a ‘gweddol’ yw hi hefyd mewn sawl man!) gallwn ni ddarlledu a rhannu’r gorau o unrhyw ddigwyddiad, ac unrhyw stori sydd o bwys i ni. Does dim angen holi caniatâd. Does dim angen disgwyl i eraill. Y potensial yw y gallwn ni roi sylw i’r cyfoeth o weithgarwch lleol sy’n sail i’r stwff cenedlaethol. A gyda mudiad y Ffermwyr Ifanc, yr elfen leol honno yw sail pob dim.

Dyna’n gwmws pam y bydd Bro360 yn cefnogi aelodau CFfI Ceredigion i greu blog byw o’r Steddfod Clybiau ddydd Sadwrn.

Ers i wefan fro BroAber360 fynd yn fyw rhai wythnosau nôl, bellach mae’r platfform ar gael i unigolion, clybiau a chymdeithasau ei defnyddio i rannu eu straeon. Aelodau fydd yn creu’r cynnwys amrywiol ac yn dod â holl hwyl y steddfod yn fyw.

Ewch i BroAber360.cymru ddydd a nos Sadwrn i fwynhau’r arlwy. Ac os y’ch chi’n hoffi be chi’n weld, cofiwch rannu’r ddolen â’ch ffrindiau. Efallai nad yw platfformau lleol, gan-y-bobol, yn mynd i allu cystadlu â chorfforaethau mawr o ran cyrhaeddiad (wel – dim ‘to!). Ond mae ‘da ni i gyd y grym i greu ein cynnwys diddorol a’i rannu’n eang. Dylsen ni gydio yn y cyfle hwnnw â dwy law, a mynd amdani.