Wrth i chi ymlacio / bwrw’ch blinder / magu’ch hangover heddi, mae’n gyfle i edrych yn ôl ar y diwrnod mowr.
Bennu Rali CFfI Lledrod 2019 gyda itha gwd llun!
Co @_gwilym yn clou y ddawns.?? mowr i'r sir a'r clwb am fentro, a rhoi cyfle i gannoedd o aelode mudiad ieuenctid pwysica Ceredigion i joio band gore Cymru ar hyn o bryd.
Diwedd da i ddyrnod sbeshal yn Lledrod.#ralicardi pic.twitter.com/nVKshDYYrz
— lowri fron ??????? (@lowri_fron) June 2, 2019
Wede ni bod Criw Lledrod – er yr holl waith caled a’r paratoi – wedi cael diwrnod â hanner ddoe :)
Diolch am y croeso!
Cwmni Bysus Windy Corner yn falch o fod yn carto pobol ifanc i ddawns y Rali!
Mari Glwys o CFfI Pontsian oedd un arall o’n gohebwyr bro brwd ddoe – yn rhannu ar Instagram gyda’r hashnod #ralicardi.
Dyma gasgliad o luniau a fideo ganddi o’r cystadlu. Lluniau da, Mari!
https://www.instagram.com/p/ByM1keNFNIKCAUj_a0R1JTx5_rTzi6F9CPMxGM0/
Rhai o uchafbwyntiau CFfI Troed-yr-awr ddoe. Gyda diolch arbennig i Dafydd James, Ysgrifennydd y Clwb, am fod yn ohebydd bro am y dydd!
Wel dyna ni rali 2019 wedi dod i ben. Diolch i’r holl aelodau am ei Gwaith yn ystod adeg rali leni, diolch i’r holl…
Posted by Ffrindiau C.Ff.I Troedyraur on Sunday, 2 June 2019
Un o sêr CFfI Pontsian yn Rali 2019 – llongyfarchiadau Beca!
Daeth Pontsian yn 10fed ar ddiwedd y cystadlu.
Llongyfarchiade mawr i Beca Jenkins! Beca wedi dod yn ôl a phedwar cwpan i Bontsian hedidw???-Unigolyn gorau barnu…
Posted by CFfI Pontsian on Saturday, 1 June 2019
Clwb Mydroilyn wedi cael diwrnod da – a dod yn yfed ar ddiwedd y cystadlu.
Da iawn i bawb am gymryd rhan yn Rali C.Ff.I Ceredigion ddoe ☺️1af yn y Arwydd 1af i’r Tro ar Hwiangerdd 1af i…
Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019
Cyfle i wylio un o uchafbwyntiau’r dydd – Clwb Mydroilyn yn ennill y ‘tro ar hwiangerdd’ gyda pherfformiad oedd yn codi tipyn o gwestiynau am gefen gwlad heddi.
Llongyfarchiadau!
Dyma'r 'Tro ar Hwiangerdd' buddugol fydd yn mynd mlan i gynrychioli Ceredigion yn y Sioe Fawr! Da iawn bois, o'ch chi'n wych! ???
Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019