Dydd Sul ar ôl Rali CFfI Ceredigion – llongyfarchion ac atgofion

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Wrth i chi ymlacio / bwrw’ch blinder / magu’ch hangover heddi, mae’n gyfle i edrych yn ôl ar y diwrnod mowr.

13:52

Wede ni bod Criw Lledrod – er yr holl waith caled a’r paratoi – wedi cael diwrnod â hanner ddoe :)

Diolch am y croeso!

13:52

View this post on Instagram

#ralicardi

A post shared by Mari Glwys (@mariglwys) on

13:51

Cwmni Bysus Windy Corner yn falch o fod yn carto pobol ifanc i ddawns y Rali!

View this post on Instagram

Ni’n belo nawr ?? #dance #yfc #ceredigion #ralicardi

A post shared by WindyCornerCoaches (@windycornercoaches) on

13:50

Mari Glwys o CFfI Pontsian oedd un arall o’n gohebwyr bro brwd ddoe – yn rhannu ar Instagram gyda’r hashnod #ralicardi.

Dyma gasgliad o luniau a fideo ganddi o’r cystadlu. Lluniau da, Mari!

View this post on Instagram

Diwrnod da yn #ralicardi ?

A post shared by Mari Glwys (@mariglwys) on

13:48

https://www.instagram.com/p/ByM1keNFNIKCAUj_a0R1JTx5_rTzi6F9CPMxGM0/

13:47

Rhai o uchafbwyntiau CFfI Troed-yr-awr ddoe. Gyda diolch arbennig i Dafydd James, Ysgrifennydd y Clwb, am fod yn ohebydd bro am y dydd!

Wel dyna ni rali 2019 wedi dod i ben. Diolch i’r holl aelodau am ei Gwaith yn ystod adeg rali leni, diolch i’r holl…

Posted by Ffrindiau C.Ff.I Troedyraur on Sunday, 2 June 2019

13:45

Un o sêr CFfI Pontsian yn Rali 2019 – llongyfarchiadau Beca!

Daeth Pontsian yn 10fed ar ddiwedd y cystadlu.

Llongyfarchiade mawr i Beca Jenkins! Beca wedi dod yn ôl a phedwar cwpan i Bontsian hedidw???-Unigolyn gorau barnu…

Posted by CFfI Pontsian on Saturday, 1 June 2019

13:42

Clwb Mydroilyn wedi cael diwrnod da – a dod yn yfed ar ddiwedd y cystadlu.

Da iawn i bawb am gymryd rhan yn Rali C.Ff.I Ceredigion ddoe ☺️1af yn y Arwydd 1af i’r Tro ar Hwiangerdd 1af i…

Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019

 

13:37

Cyfle i wylio un o uchafbwyntiau’r dydd – Clwb Mydroilyn yn ennill y  ‘tro ar hwiangerdd’ gyda pherfformiad oedd yn codi tipyn o gwestiynau am gefen gwlad heddi.

Llongyfarchiadau!

Dyma'r 'Tro ar Hwiangerdd' buddugol fydd yn mynd mlan i gynrychioli Ceredigion yn y Sioe Fawr! Da iawn bois, o'ch chi'n wych! ???

Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019

13:34

Ma’ tîm Bro360 yn ddiolchgar iawn am y croeso gafon ni â’n stondin yn y Rali ddoe – nethon ni joio mas draw yng nghanol clybiau Ceredigion.

A nid ni oedd yr unig rai’n joio ar y stondin, glei!