Croeso i flog byw Bro360 – dilynwch ni gydol y dydd i weld hynt helynt pobol ifanc Arfon a Cheredigion.
Y Gân Actol yn cynhesu! ….pob lwc? pic.twitter.com/TY8XfhXoGT
— Ysgol Y Garnedd (@ysgolygarnedd) May 27, 2019
Diwrnod cyntaf gret i Geredigion – Llongyfarchiadau mawr i bawb!
— Urdd Ceredigion (@UrddCeredigion) May 27, 2019
…neu fory! Os chi'n dod lawr i'r steddfod, galwch heibo i stondin Golwg i gyfrannu i'r blog byw. Mwy o Arfon na Cheredigion heddi – cymon Cardis! https://t.co/vuduQtmuYK
— lowri fron ??????? (@lowri_fron) May 27, 2019
Seren Wyn Jenkins, sy’n byw ger Aberystwyth, yw enillydd Medal Gelf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.
Mwy gan golwg360…
https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/546678-seren-jenkins-cipior-fedal-gelf
Yn anffodus dyw Ysgol Penparc heb gael llwyfan yn yr côr Blwyddyn 6 ac iau.
Ond ry’n ni wedi joio canu Cân y Botymau!
Pob lwc i ymgom Ysgol Penparc fory, sef Ifan,Bronwen ac Gwen.
? CANLYNIAD! ?
Cystadleuaeth: Unawd Cerdd Dant Bl. 5 a 6
3ydd: Alwena Owen, Ysgol Bro Teifi, Ceredigion
? CANLYNIAD! ?
Cystadleuaeth: Cân actol Bl. 6 ac iau
1af: Ysgol Gynradd Plascrug, Ceredigion
? CANLYNIAD! ?
Cystadleuaeth: Unawd Cerdd Dant bl. 3 a 4
1af: Ela Mablen Griffiths-Jones – Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion
Cystadleuaeth: Llefaru Unigol bl. 3 a 4
1af: Gwenno Beech, Ysgol Gynradd Llanllechid, Eryri
2il: Ela Mablen Griffiths-Jones, Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion
Ydych chi’n yn yr Eisteddfod heddiw? Dewch lawr i’r Senedd i gael eistedd yng nghadair bwysig Elin Jones.
Buon ni – Siwan ac Esyllt – yna bore ma!
CANLYNIAD!
Cystadleuaeth: Cerddorfa / Band bl. 6 ac iau
1af i Ysgol gynradd Bontnewydd, Eryri